| Cyfrifiad 1881 | Cofnodion Plwyf Llansaint | Ymchwyl Y We | Ganwyd
George Nicholas ym 1848 ym mhlwyf Llansaint, Sir Gar. Llansaint oedd cartref
ei fam, Mary Charles. Priodwyd Mary Charles a David Nicholas ar y 3ydd o Chwefror
1835. Roedd ganddynt oleuaf pedwar o blant cyn genedigaeth George. Ganwyd Mary
ar y 5ed o Ebrill 1835, James ar y 3ydd o Ebrill 1836 ac Anne ar y 1af o
Orffenaf 1838. Crydd oedd David yn ôl ei alwedigaeth. Dengys cofnodion y plwyf
fod plentyn arall wedi ei geni ond wedi marw’n ifanc. Claddwyd Elizabeth ar y
4ydd o Hydref 1847. Bu farw ei fam, Mary, yn fuan ar ôl genedigaeth George, ac
fe’i claddwyd ar yr 11eg o fedi 1849 yn bedwardeg mlwydd oed. Erbyn 1851 roedd David wedi symud ei deulu i
Gwmafan, pawb ond George. Gadawyd y crwt bach 5 mlwydd oed gyda theulu ei
ddiweddar fam yn Wern (Upper Wern), Llanelli. Roedd ei ewythr Thomas
Charles hefyd yn gweithio fel crydd. Erbyn 1861 roedd George wedi ail
ymuno a’i dad ac yn byw yn
Miners Row, Cwmafan. Ar y cychwyn bu David yn gweithio fel 'blast furnace
filler' ond roedd bellach wedi ail gydio yn ei grefft fel gwneuthurwr
esgidiau. Roedd i farw cyn
priodas George ym 1873.
Ewch yma i weld tystysgrif priodas George a Sinah Dengys cyfrifiad 1881 fod George wedi priodi Sinah ac
erbyn hyn yn byw yng Nhwmafan, Sir Forgannwg. Ganwyd Selina "Sinah" Lloyd yn Yspitty, Sir
Gar tua 1852. Pentre bach oedd Yspitty (Ysbyty) ar lannau gorllewinol yr afon
Llwchwr, yn agos at bentref Bynea,
ar yr hewl o Lanelli i Abertawe. Dim ond rhes fer o dai sydd ar ôl o’r
pentref heddiw. Yn Nhreforris y ganwyd Mary, mam Sinah ac roedd ei thad, William
Lloyd yn hanu o ardal Nantgaredig ger tref Caerfyrddin (yn ôl straeon y teulu).
Dengys cyfrifiad 1881 fod George a Sinah yn byw yn
rhif dau, Copper Row, rhes o fythynnod ar lether deheuol y Foel Fynyddau. Roedd
y bythynnod bach yma ond yn cynnwys dwy ystafell ar lawr a dwy ystafell yn y
llofft. Gorweddai Cwmafon (Cwmafan) wrth draed y mynydd, pentref diwydiannol
oedd ar gynydd yn ei bwysigrwydd yn sgil adeiladu y gweithfeydd haearn. Roedd
George yn gweithio fel pydlwr yn un
o’r gweithfeydd yma. Gwaith anodd a pheryglus. Roedd y pydlwyr yn aml yn ddall,
neu’n aml yn dangos creithiau, olion poer y pair.
Ym 1881 roedd pump o blant yn y teulu. Mary oedd yr
hynaf yn wyth, William yn chwech,
David yn bump, Rachel yn un a Lewis (?John) yn dri mis. Roedd Hayden a Anne heb
eu genni eto. Efallai dengys ymchwil bellach fod mwy o blant yn y teulu. Gan
gofio pa mor fach oedd y cartref, roedd Mary, mam Sinah a oedd yn chwedeg-naw
mlwydd oed,yn byw gyda’r teulu.
Mary oedd i briodi Thomas Griffiths o Ben y Cae (Oakwood), Pontrhydyfen, sef tad-cu a mam-gu yr awdur.
NB: ** Noder y camsyniad a gywirwyd gan y cofnodwr!
|