GRIFFITHS gyda Evans, Jones, Nicholas, Phillips, Ryan, Smyth a Murray
| Evans | Jones | Nicholas | Phillips | Ryan | Smyth/Murray | | Tomos Y Gwehydd | William Y Glowr | 'Murder Most Foul' | 'Y Bugail' |
*******
******* Y peth gwefreiddiol i mi oedd darganfod gwehydd yn y teulu, mae’ digonedd o lowyr, ffermwyr, gofaint, bugeiliaid, a masiyniaid, ond gwehydd!? Mae hefyd wedi bod yn wefr i lwyddo mynd ‘nol mor bell, 1754 i bob pwrpas. Mae gan deulu Evans ‘Sgweiar’ a chrynwyr yn eu mysg. Mae gan deulu Phillips ‘Is-Bennaeth Coleg Exeter’. Mae gan deulu Jones briodas yn Clifton ger Bryste. Mae gan deulu Nicholas bydlwr. Ces hwyl wrth ysgrifenni’r storïau am ‘Y Gwehydd’, ‘Y Glowr’ a’r ‘Bugail’. Rhoi cig ar yr esgyrn fel petai. Os oes gan unrhyw un ffeithiau am y llwyth cysylltwch
os gwelwch yn dda. * Un peth arall. Mae'r dogfennau swyddogol i gyd yn Saesneg, y cyfrifiad a.y.b. felly dwy ddim wedi eu cyfieithu, er mwyn cywirdeb. Mae hyn yn amlwg iawn ar dudalennau 'Evans' a 'Waunuchaf'. Hefyd, mae rhestr y disgynnyddion wedi'i greu gan feddalwedd 'ROOTS MAGIC' - felly yn y Saesneg. Hwyl am y tro a cofiwch gysylltu, Geraint.
|