Ganwyd Thomas Griffiths ym 1798 pan oedd George y
trydydd yn teyrnasu. Roedd yn
byw ar ffarm Penbontbren, rhyw hanner can erw o dir ym mhlwyf Llangynnwr
i’r de o’r afon Tywi, ger tre Caerfyrddin. Roedd yn un o bump o blant.
Roedd Mary, ei unig chwaer, yn bum mlynedd yn hŷn ac roedd ganddo tri
brawd, William, David a Richard. Dyma gyfanswm y teulu sydd wedi ei
ddarganfod mor belled yng nghofnodion eglwys plwyf Llangynnwr.
Roedd tad Thomas, William Griffith, a’i fam Catherine yn
ffarmio'r tir cymysg a chorslyd sy’n gorwedd i’r gogledd o’r A48 yn
Nant y Caws, ar lannau Nant Pibwr. Mae’n debygol fyddai William a
Catherine yn ychwanegi at eu hincwm trwy nyddu a gwehyddu brethyn cartref
yn ôl arferiad cyffredin y cyfnod.
Fyddai Thomas yn gorfod gweithio tra’n ifanc iawn, roedd addysg
ffurfiol yn brin i fechgyn, ac yn fwy prin i ferched. Yn ôl y dystiolaeth
doedd Catherine, mam Thomas, ddim yn medru ysgrifennu ei enw, er hynny, yn
debygol iawn o fedru darllen. Roedd yr ysgol Sul yn ceisio sicrhau fod pawb yn medru darllen eu Beibl. Cymraeg oedd unig iaith y
teulu, fel dengys y cyfrifiadau ar ôl cyfrifiad 1841, (Doedd ’41 ddim
yn cofnodi iaith). Gan fod y boblogaeth i gyd yn cael eu bedyddio, priodi
a’u claddu yn eglwys y plwyf, does dim gwybodaeth am enwadaeth y teulu
ar hyn o bryd.
Yng ngwanwyn 1809 fe dderbyniodd y teulu ergyd drom, bu farw'r tad,
William yn 39 mlwydd oed. Does dim modd gwybod sut y bu farw, naill ai
trwy afiechyd neu ddamwain. Fe’i claddwyd ym mynwent eglwys Llangynnwr.
Saif yr eglwys ar fryn sy’n edrych i’r dwyrain ar Ddyffryn Tywi, un
o’r golygfeydd hyfrytaf yn y byd o bosib. Yn
ôl arferiad y dydd, priododd Catrine o fewn blwyddyn. Roedd Richard Rees,
Penddaulwyn Isaf, yn ŵr gweddw, a tua naw mlynedd yn iau na
Catherine. Fe’u priodwyd, dan drwydded, yn eglwys Llangynnwr. Yn ôl y
dystiolaeth, John oedd eu hunig blentyn, gannwyd ef ym 1816, pan oedd
Catherine yn 45 mlwydd oed. Pan oedd Thomas yn ugain bu farw ei lys-dad,
yn 39 mlwydd oed, yr un oedran a’i dad. Ac mae Richard Rees, fel William
Griffith, wedi ei gladdu ym mynwent eglwys Llangynnwr. Fe saif ffarm
Penddaulwyn Isaf ar yr hewl o Llangynnwr i Gapel Dewi hyd at heddiw.
Fu Catherine yn ffermio am ragor na deugain mlynedd gyda chymorth
ei theulu. Bu farw ym 1859 yn 88 mlwydd oed. Fe’i claddwyd ym mynwent
eglwys Llangynnwr, ac mae ei charreg fedd i'w weld yn sefyll yng nghysgod
yr hen ywen fawr a saif yn agos at y wal orllewinol.
Roedd tref Caerfyrddin yn ffynnu yn y cyfnod yma, trwy allforio
nwyddau o bob math yn cynnwys tun, glo, llechu, caws, menyn, coed ac eog
wedi piclo. Ond yn fwy pwysig i’r stori yma ydy’r ffaith fod y dref yn
ganolfan i’r diwydiant gwlân, gyda llawer o felinau gwlân a chytiau
gwehyddu yn ardal Pentrefelin. Ar y pryd, Caerfyrddin oedd y dre fwyaf yng
Nghymru o ran maent a phrysurdeb. Yng Nghaerfyrddin wnaeth Thomas gyfarfod
a Hannah William. Fe’u priodwyd yn eglwys Sant Pedr yn Nhachwedd 1826.
Ganwyd eu plentyn cyntaf, Mary, ar y 17eg o Fehefin, 1827; fe'i bedyddiwyd
yng nghapel Tabernacle, Teras Waterloo, Caerfyrddin. Gan mae capel y
Bedyddwyr ydy hwn, efallai mae dyma enwad teulu Hannah. Ganwyd eu hail
blentyn, John ym 1829 ac fe’i bedyddiwyd yn eglwys Sant Pedr. Dyma’r
unig ddwy record o fedydd yn y teulu sydd wedi ymddangos mor belled, fydd
rhaid ymchwilio cofnodion
Bethel, sef capel y
bedyddwyr yn Llangyndeyrn.. Mae cofnodion eglwys San Pedr yn dangos fod y
teulu yn byw yn Bridge Street, Stryd y Bont heddiw. Ardal gymharol
dderbyniol ar y pryd i'w gymharu ag ambell i ardal. Roedd hi’n gyfnod
chwyldroadol yn hanes y dre, gyda therfysgoedd gwleidyddol a chymdeithasol
dros welliant safon byw yn digwydd yn aml. Efallai bod hyn yn esbonio pan
wnaeth Thomas a Hannah gefni ar y dre am y wlad. Roedd Thomas wedi ei
hyfforddi i fod yn wehydd.
Erbyn cyfrifiad 1841 mae teulu Thomas a Hannah wedi symud i Gwm
Gwendraeth Fach, i bentrefan Felindre ym mhlwyf Llangyndeyrn. Eu cartref
newydd oedd bwthyn ‘Pandy’, un o sawl bwthyn gyda gardd a’u
hadeiladwyd ar gyfer gweithwyr y felin flawd a’r felin wlân. Roedd Nant
Drysgeirch yn troi oleua pedair rhod yn ardal Felindre. Roedd y teulu wedi
cynyddu; erbyn hyn roedd saith o blant, sef Mary, John, Sarah, David,
William, Elizabeth a’r babi, Catherine, yn bythefnos oed. Roedd Thomas
yn gweithio fel gwehydd yn felin wlân William Harris, ‘Y Factory’.
Mae’n debygol mae hen ysgubor yw’r adeilad lle lleolwyd y gwyddiau,
peirianiaeth y ffatri, tua phedwar ugain metr o gartref Thomas. Mae’n
sefyll hyd heddiw, er yn ddi-do. Gan fod angen mwy o le symudodd y teulu o
‘Pandy’ i ‘Ty’r Tranch’, cartref ychydig yn fwy gyda dwy stafell
ar lawr, llofft fach i’r plant, gardd a thwlc mochyn. Ond un ystafell
oedd gan ‘Pandy’ mwy na thebyg. Mae ‘Ty Tranch’ yn dal i sefyll,
eto heb do, ond mae cynllun yw adnewyddu yn ôl y perchennog presennol.
Mae pridd yr ardd yn edrych yn hynod o gyfoethog ac yn amlwg wedi derbyn
gofal hyd at yn ddiweddar iawn. Erbyn
cyfrifiad 1851 roedd pethau wedi newid; roedd Mary, John, David a William
wedi gadael Cartref. Roedd
William (WG2) yn byw Gyda’i ewyrth Richard, brawd ei dad, yn Llanelli ac
yn mynd i’r ysgol yno. Ac roedd tri phlentyn newydd. Herbert oedd yr
hynaf wedyn Catherine a’r babi Harriet yn un mis ar ddeg oed. Doedd
Elizabeth, 12, heb adael ac roedd y Catherine yng nghyfrifiad ’41 yn
amlwg wedi marw’n arswydus o ifanc gan fod y Catherine yma yn bedair
blwydd oed yn barod. Roedd Catherine yn enw pwysig i’r teulu. Enw eu
mam‑gu wrth gwrs a oedd yn dal i ffarmio Penddaulwyn Isaf gyda’i
meibion William a John. Ar ddiwrnod y cyfrifiad ym 1851 roedd ganddi
ymwelwyr. Daeth Mary a David, ei gwyron,
yw gweld, wedi cerdded y pum milltir o Llangyndeyrn. Fyddant wedi
cerdded drwy bentref Llangyndeyrn ac ar hyd y lonydd bach i’r gogledd,
dros y llwybrau sy’n dal i groesi’r ffermydd hyd heddiw. Dros yr hewl
fawr o Abertawe i Gaerfyrddin yn Nant y Caws. Fu’n rhaid mynd heibio
Penbontbren, hen gartref eu tad‑cu William ac ymlaen dros diroedd
Penddaulwyn ac i lawr i Ddyffryn Tywi at Penddaulwyn Isaf. Deng
mlynedd wedyn, yn ystod rhyfel Cartref yr Unol Dalaethau, roedd bywyd yn
Felindre heb newid rhyw lawer. Dengys cyfrifiad ’61 fod Thomas yn dal i
weithio yn y ffatri wlân fel gwehydd; roedd nawr wedi cyrraedd trigain
mlwydd oed. Roedd Hannah yn 8, ac roedd Elizabeth a Catherine heb adael
Cartref. Roedd Herbert wedi dechrau ei yrfa ym myd amaeth, ac
yn debygol o fod yn was ffarm, ac yn byw ar un o’r ffermydd
lleol. Roedd William yn 23. Daeth y rheilffyrdd i dre Caerfyrddin ym 1850,
ac ymunodd a’r criw helaeth o ddynion i weithio gyda’r dechnoleg
newydd.
Doedd dim llawer wedi newid erbyn cyfrifiad 1871 ychwaith. Noder
fod Thomas, nawr yn saithdeg, yn dal i weithio fel gwehydd, ei alwedigaeth
am dros ddeugain mlynedd. Tra yn y swydd fyddai’n cael aros yn Ty’r
Tranch. Roedd Elizabeth yn ddeg ar hugain, ac yn gweithio fel teilwres neu
‘dressmaker’ fel y gelwir yn y cyfrifiad. Does dim son am Catherine,
ond gan ei bod yn ailymddangos yn y cyfrifiad nesaf, mae’n bosib ei bod
oddi cartref yn ymweld â’i theulu rhywle. Mae’n bosib ei bod wedi
dechrau gweithio fel morwyn efallai. Gan ei bod yn ddwy ar hugain mae’n
bosib ei bod yn gweithio ers sawl blwyddyn erbyn hyn.
Daeth newidiadau mawr erbyn cyfrifiad 1881. O’r diwedd roedd
Thomas wedi ymddeol o’r ffatri wlân, ac o’r herwydd, wedi gorfod
gadael Ty’r Tranch. Roedd nawr yn wythdeg ac yn byw yng nghysgod eglwys
y plwyf yn Llangyndeyrn, ym mwthyn bach ‘Cwrt’, go dderbyn a Tafarn
‘Y Ffermwyr’. Mae’r cyfrifiad yn ei alw’n ‘Village Court’ wedi
ei adeiladu ar safle hynafol iawn. Mae’r bwthyn, wedi ei foderneiddio,
ac yn dal yno. Roedd Hannah yn bedwar ugain ac roedd Catherine wedi
dychwelid i ofali am eu rhieni oedrannus. Rheswm arall am ddychwelid oedd
bod Elizabeth wedi priodi James Thomas ym 1874, roedd hi nawr yn fam i dri
o blant. Crydd oedd James a Lisa, fel y gelwir, yn byw a gweithio fel
teilwres mewn bwthyn bach yn ardal Llan, Llangyndeyrn.
Yn y degawd nesaf daw stori Thomas Griffiths i ben. Ym mis Awst,
1889, yn bedwardeg tri, bu farw Catherine ym mwthyn ‘Cwrt’. Roedd ei
thad yn nawdeg un a’i mam yn wythdeg naw. Mae’n debygol fod eu rhieni
yn ddibynnol ar Catherine am eu gofal, neu efallai bod Catherine yn
ddibynnol ar eraill tra’n dioddef o’r afiechyd wnaeth ei lladd mor
ifanc, pwy a wyr? Cyn pen tri mis bu farw Hannah yn wythdeg naw. Heb
os roedd angen gofal ar hen Thomas, a symudodd i fwy gyda Elizabeth yn ei
chartref newydd ym Mhont Antwn, tua milltir lawr y cwm. Dyma le treuliodd
ei fisoedd olaf tan ei farwolaeth. Fe’i claddwyd ym mynwent eglwys
Llangyndeyrn ym mis Rhagfyr 1890 yn nawdeg a dwy flwydd oed. Mae ei garreg
fedd fach wen yn sefyll i’r gorllewin o ddrws gorllewinol yr eglwys.
Mae’n anodd darllen y geiriau ar y maen bellach, a chyn hir fydd effaith
y tywydd wedi eu difodi’n llwyr.
Dechreuwyd y daith i hela’r achau gydag arysgrifau ar gerrig
beddau mewn hen fynwentydd ac mewn nodiadau Lladin a’u hysgrifennwyd gan
gwilsyn ac inc, mae’n gorffen ar gyfrifiadur wedi ei gyhoeddi ar y
Rhyngrwyd. Gannwyd Thomas Griffiths y Gwehydd ym 1801, aeth dau gan
mlynedd heibio cyn i’r stori gael ei hadrodd. Mae ei ddisgynyddion, sydd
wedi symud i’r rhan yma o Gymru i fyw, yn dechrau sylweddoli fod y rhod
yn wir wedi troi, ac ein bod, o’r diwedd, wedi dod adref. |