Mae'r stori yma'n seiliedig ar ffaith,

straeon teuluol ac ychydig o ddychymig.

William Griffiths

cwmevanbachold.jpg (24677 bytes)

Cwm Ifan Bach 

CLICIWCH AR Y LLUN


William Y Glowr

Ganwyd William Griffiths yn Sir Gaerfyrddin tua 1836. Symudodd ei rhieni o dref Caerfyrddin i fyw ym  mhlwyf Llangyndeyrn yng Nghwm Gwendraeth Fach. Erbyn 1841 roedd y teulu’n byw ym mwthyn Pandy, ym mhentrefan Felindre, tua milltir o Llangyndeyrn a lled cae neu ddau o bentref Pont Antwn. Gwehydd oedd Thomas ei dad ac roedd yn gweithio  ym melin wlân Drysgeirch a saif yng nghanol Felindre y tu ôl i’r felin flawd ar y sgwâr. Roedd mwy nag wyth rhod yn dibynnu ar ddŵr nant Drysgeirch yr adeg hynny. Yn ystod cyfrifiad 1841 roedd William yn bedair blwydd oed a chanddo chwech o frodyr a chwiorydd. Mae’n aneglur ble ganned y pum plentyn ifancaf gan fod y blynyddoedd rhwng 1829 a 1841 yn ddirgelwch. Does dim son amdanynt ar unrhyw gofrestr blwyf sydd wedi dod i law mor belled. Erbyn 1851 roedd William wedi symud i fyw gyda'i ewyrth Richard, brawd ei dad, yn Llanelli. Yno fyddai yn mynd i’r ysgol tan ei fod yn ddigon hen i ddechrau gweithio. Cyrhaeddodd y trên tre Caerfyrddin erbyn 1850, ac fe heidiodd cannoedd o fechgyn ifanc i ymuno gyda Isambard Kingdom Brunel i adeiladu’r rheilffyrdd dros dde Cymru. Labro oedd gwaith William mwy na thebyg, er ei fod yn medru darllen. Mae sawl un o’i lyfrau, sydd wedi goroesi, yn dangos llaw ysgrifen gywrain ‘copper-plate’ gyda’r geiriau:- ‘William Griffiths, his book.’ Mae’n bosib mae llaw ysgrifen perchennog y siop lyfrau oedd hyn am fod tystysgrif priodas William yn ddiweddarach yn dangos croes fel ei farc. Diolch i Ddeddf Addysg farbaraidd 1870, defnydd y gansen a’r ‘Welsh Not’, roedd gwaith ysgrifenedig bron i bawb yn yr iaith Saesneg. Roedd hyn pan oedd dros nawdeg y cant o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg yn unig. Un o’i lyfrau oedd ‘Gems Of Welsh Melody’, detholiad o ganeuon Cymraeg, gyda’r geiriau yn Gymraeg a Saesneg o dan y gerddoriaeth hen nodiant. Ysgrifennwyd ar y dudalen flaen:

Mr. William Griffiths

his book

Bought September 1st 1862

Llyfr arall o’i feddiant oedd 'The Storm Of Tiberias’, oratorio gan Y Parchedig E. Stephens, eto gyda’r geiriau yn y ddwy iaith o dan yr harmonïau i bedwar llais.

Mae’n darllen:

Mr. William Griffiths

his book

bought September 1st 1864

Ysgrifenwyd mewn pensel ar y tu fewn:

Mr. Wm Griffiths Half Bound

Ym 1862 roedd William yn bump ar hugain, ac yn 1864 yn saith ar hugain. Beth oedd arwyddocâd y cyntaf o Fedi? Nis gwn. Efallai mai cyd-ddigwyddiad oedd, neu efallai pen-blwydd. Ond dyma ddyddiad Ffair Castell Nedd, ac efallai bydda’i William yn mynychu’r digwyddiad er mwy’n pryni llyfrau. Roedd yn ddyn diwylliedig mae’n amlwg, yn medru darllen a ysgrifenni yn y ddwy iaith a darllen hen nodiant a sol-ffa. Roedd canu corawl yn ddiddordeb mawr iddo trwy ei oes, fel y gwelwn nes ymlaen.

            Gan Brunel oedd y cyfrifoldeb o adeiladu rheilffordd ‘Y South Wales Mineral Railway’ i fyny Dyffryn Afan. Fe ddatblygodd Pontrhydyfen i fod yn groesffordd rhwng ‘The Rhondda and Swansea Bay Railway’ yn Nyffryn Afan, a’r ‘Port Talbot Railway Line’ oedd yn dilyn Cwm Pelenna i lawr o Tonmawr. Fu llawer o waith adeiladu anferth yn yr ardal. Ni orffennwyd y bont goch yn Oakwood (neu Penycae yn wreiddiol) tan 1897. Fu cannoedd o weithwyr yn byw dros-dro yn yr ardal yn ystod yr adeg hynny. Roedd William yn lletya yn ardal Mynydd Bychan ym Mhontrhydyfen erbyn cyfrifiad 1861 ac yn gweithio fel glöwr. O fewn chwe blynedd o brynu’r llyfr uchod roedd yn ddyn priod. Mari John o Gwm Ifan Bach oedd ei wraig. Fe’u priodwyd ar 17eg o Ragfyr 1870 yng nghapel anwes plwyf Margam yn Oakwood, William John (tad Mary) a Thomas Thomas oedd y tystion. Eu Cartref cyntaf oedd un o’r tai yn Penycae Row, neu Oakwood Row yn ddiweddarach. Roedd ‘Y Row’, fel y gelwir, yn uned o tua deg ar hugain o dai bychan cefn wrth gefn, gyda dwy stafell yn y llofft a dwy ar lawr. Caeau oedd o’u hamgylch ar y pryd. Erbyn hyn roedd William yn löwr ac yn un o gannoedd o lowyr yn yr ardal. Roedd Dyffryn Afan yn rhan o lofa anferth De Cymru. 

oakwoodold.jpg (21057 bytes)

Oakwood yn gynnar yn y  20ed ganrif

CLICIWCH AR Y LLUN

    

Ganwyd eu plentyn cyntaf, Thomas, ym 1872. Enwyd ef ar ôl ei dad-cu, Tomos Y Gwehydd, a’i hen-hen-dad-cu, Thomas Griffiths yr Iwmon o Llandyfeilog. Erbyn cyfrifiad 1881 roedd ganddynt chwech o blant sef Thomas, David, Hannah, William, Mary Ann a John. Roedd y pedwar plentyn hynaf wedi mynychu ysgol Oakwood yn Tai Isia. Adeiladwyd ym 1860 a fu’n cynnig addysg i’r plant lleol tan agorwyd ysgol newydd ym 1907. Roedd gan yr hen ysgol ddosbarth babanod, ac mae lluniau o’r plant bach wedi goroesi. Roedd Mr Roberts, yr ysgol feistr, yn enwog am ddefnyddio’r gansen ar unrhyw blentyn a fyddai’n siarad ei famiaith. Polisi creulon, dinistriol a chiaidd system addysg y dydd.

            Doedd y capeli ddim yn gorfod dilyn canllawiau wrth-Gymraeg y Llywodraeth Brydeinig, a darparir addysg grefyddol a chyffredinol yn yr iaith Gymraeg yn yr ysgolion Sul i bobl o bob oedran. Dysgir darllen, ysgrifenni ac wrth gwrs, sol-ffa. Jerwsalem oedd capel y Griffithsiaid, capel y Methodistiaid Calfinaidd, draw dros Y Bont Fawr ym Mhontrhydyfen. Adeiladwyd y bont ym 1825 i gario rheilffordd fach ac yn ddiweddarach i gario dwr i’r ffwrnesi haearn yn Tai Isia. Adeiladwyd Jerwsalem ym 1826 i gymerid lle hen gapel Gyfylchi a saif ar ben mynydd Pen Rhys. Fe’i adnewyddwyd ym 1845, a’i ailadeiladwyd ym 1876. Roedd yn un o lawer o gapeli yn yr ardal fu’n gwasanaethu poblogaeth grefyddol oedd ar gynnydd. Erbyn Diwygiad 1909 roedd gan Jerwsalem 40 athro ysgol Sul, a 350 disgybl!

            Yn y diwedd, symudodd William a Mary i Gwm Ifan Bach, i dy a oedd yn cynnig mwy o le i’r teulu. Saif y Cartref yma dros y cwm o’r hen orsaf rheilffordd. Daeth rhagor o blant, sef, Richard a Catherine; fu Mary Ann farw yn blentyn ifanc, ac fe’i claddwyd ym mynwent Jerwsalem, (ym medd ei rhieni). Roedd diddordeb William heb byli; roedd yn gôr-feistr i sawl côr yn y dyffryn. Roedd hefyd yn athro sol-ffa, ac roedd ganddo organ fach a gariai o le i le i gyfeilio i’w gantorion. Ffurfiodd barti ‘glee’ yng Nglyncorrwg, mae’n amlwg fod cerddoriaeth yn medru bod yn hwyl a sbri iddo hefyd.

Etifeddwyd ei gariad am gerddoriaeth gan ei blant. Roedd Thomas yn gôr-feistr ac yn Drwyddedwr Yr Ysgol Sol-ffa. Fu’n godwr-canu yn Jerwsalem am flynyddoedd, adeg pan oedd y swydd yn dra phwysig! Fu John yn athro piano, yn gôr-feistr ac yn organydd yng nghapel Bethany, Aberafan. Derbyniodd fetronom o bren mahogani fel rhodd pan adawodd Bethany am swydd fel organydd yng nghapel Walham Green, Llundain. Roedd Richard yn gerddor o fri, yn gôr-feistr, athro piano ac yn organydd yng nghapel Jerwsalem. Cyhoeddwyd peth o’i gyfansoddiadau. Hen lanc oedd David, fu’n byw yng Nglyncorrwg. Priododd Hannah, William Charles, a fu’n byw yng Nghwm Ifan Bach. Gofalodd am ei rhieni tan ddiwedd eu hoes. Person tra gwahanol oedd Catherine. Fe aeth i Lundain yn ifanc. Yno priododd Victor Valogne ym 1917. Un o Ffrancwyr Llundain oedd Victor, ei dad a’i dad-cu yn wneuthurwyr clociau enwog. Roedd ei dad-cu yn hanu o ardal Saint Cloud, ym Mharis ac roedd y teulu yn dal i siarad Ffrangeg. Roedd ganddo siop yn gwerthu clociau yn Llundain, Regent Street o bosib. Mewnforio clociau Ffrengig oedd swydd Victor ac roedd yn teithio nol ac ymlaen o Lundain i Ffrainc yn gyson. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd draw ym Mharis pan ymosododd yr Almaenwyr ar y wlad. Mae son yn y teulu ei fod wedi suddo ar y llong olaf mas o Sant Nazaire, sef y Lancastria. Cafodd ei bomio wrth gario tua 5,000 o bobl. Achubwyd llawer o hon ŷnt. Nid oedd Victor yn eu plith, ac ni ddaeth fyth yn ôl. Arhosodd Catherine yn Llundain gyda’i merch Marguerite. Ni ddaeth fyth yn ôl I Gymru i fyw.

valones.jpg (34918 bytes)

Victor, Catherine a Margaritte Valogne

CLICIWCH AR Y LLUN

 

 

    Gyda’r mwyafrif o’u teulu o’u hamgylch, treuliodd William a Mary gweddill eu hoes yng Nghwm Ifan Bach, mewn dyffryn a’i dihunwyd o drwmgwsg y canrifoedd gan y gweithfeydd glo. Hwn efallai oedd oes aur y lofa Gymreig, oes aur y bywyd crefyddol Cymraeg ac un o oesau aur y bywyd diwylliannol Cymraeg. Gwelodd William un o gyfnodau mwyaf gwefreiddiol De Cymru, ac fe deithiodd yr hewl o’r gorffennol gwledig yn Sir Gar i’r dyfodol modern diwydiannol a addawai Oes y Glo. Ond yn fwy na hynny, fe deithiodd William mewn steil, ar gefn trên! 

Claddwyd William Griffiths  25ain o Fawrth 1907 yn 71, a chladdwyd Mary Griffiths 30ain o  Hydref 1903 yn 62 ym mynwnt Jerwsalem, Pontrhydyfen

 

 

Tri o blant William a Mary

Thomas Griffiths

John Griffiths

Catherine Griffiths

 

 

| Lluniau Dyffryn Afan

 

Adre