Y Bugail

   

Doedd Willie Lloyd Jones ddim yn ddyn hynod o uchelgeisiol, ond efallai ef oedd un o’r dynion hapusaf a fu erioed. Dyma’i stori ef.

 Fe ganwyd William Lloyd Jones, neu Willie, ym 1874 yng nghartref eu Dad-cu a’i Fam-gu yn Nhalacharn, Sir Gar. Aeth Martha, Mam Willie, adref at ei mam am ofal yn ystod genedigaeth ei baban cyntaf. Ar y pryd roedd Martha yn naw ar hugain mlwydd oed ac yn briod a William Jones ei gwr ers deunaw mis. Mab  gof oedd Wiliam o Gwrtycadno, yng ngogledd Sir Gar. Erbyn hyn roedd yn gweithio ar y rheilffordd fel ‘porter’, diwydiant newydd a modern ar y pryd. Hefyd, roedd y gwaith dipyn yn ysgafnach na gwaith ffarm fu William wrthi yn y gorffennol. Y gred yw bod Martha  a William wedi cwrdd wrth weithio ym mhlas Glansefin ger Llangadog. Yn ôl eu tystysgrif priodas, roedd y ddau yn byw yn Clifton ger Bryste pan eu priodwyd yno ar y 10fed o Awst 1872 yn eglwys y plwyf. Roedd Martha yn gweithio fel morwyn i Anne Lloyd, gweddw Edward Prys Lloyd, a oedd wedi gadael Glansefin i fyw yn Clifton ar ôl marwolaeth ei gwr. Cyhoeddwyd y gostegion yn yr un eglwys. Y tystion oedd James Phillips brawd Martha a Sarah Waters. Yn ôl y dystysgrif, porter oedd William tra roedd Martha yn ddi-waith ar y pryd. Yn fuan wedyn mae’n amlwg iddynt ddychwelid i Gymru. Llandingat House oedd eu cartref cyntaf, yn agos at ganol tre Llanymddyfri, ac yn gyfleus am yr orsaf rheilffordd.  O fewn saith niwrnod i enedigaeth ei babi cyntaf, aeth Martha yn bersonol i swyddfa gofrestri San Cler i gofrestri Willie Lloyd Jones. Roedd y siwrne ar hyd yr hewl o Dalacharn yn dra anghyfforddus mae’n sicr, mwy na thebyg mewn poni a thrap. Doedd y siwrne ar y trên o San Cler i Lanymddyfri ddim llawer mwy cysurus mae’n sicr, yn enwedig i fenyw oedd newydd gael ei babi cyntaf.

             William Jones oedd enw ei dad a'i dad-cu. Cred y teulu mae ar ôl  Teulu Lloyd Glansefin, lle fu ei dad yn gweithio, ddaeth ei enw canol. Gofaint yng Nghwrtycadno fu ei gyndadau.

            Ym mis Mawrth 1878 ganwyd Mary Ann, chwaer  Willie, yn Llandingat House. O fewn dwy flynedd, i’r diwrnod bron a bod, bu farw Martha yn 35 mlwydd oed. Fe’i claddwyd ym mynwent Llandingat. Yn anffodus, ni chodwyd carreg fedd iddi’i. Roedd Willie yn chwech a Mary Ann yn ddwy ac roedd angen help ar William i ofalu am ei deulu ifanc. Penderfynodd ei fodryb weddw, Anne Edwards, chwaer ei dad, i ddod atynt i fyw. Roedd hi’n chwedegwyth ac yn ogystal â gofalu am y teulu, fu’n golchi dillad i bobol hefyd i ennill ychydig o arian.

            Erbyn 1892 roedd amgylchiadau’r teulu wedi newid. Roedd William wedi ailbriodi. Roedd Jane o Langybi, Sir Aberteifi yn enedigol. Symudodd y teulu o Lanymddyfri o Aberpedwar, ffarm fach yn ardal Pentretygwyn tua phedair milltir o’r dre i gyfeiriad Aberhonddu. Ganwyd sawl plentyn i William a Jane ond er tristwch mawr, bu farw bob un yn fabanod. Daeth newid arall hefyd. Ganwyd mam Martha yn Clarbetson Road, Sir Benfro doedd ganddi ddim llawer o Gymraeg, felli iaith gyntaf Martha oedd Saesneg. Magwyd Willie a Mary Ann yn ddwy ieithol i bob pwrpas gan mae Cymraeg oedd iaith gyntaf eu tad. Doedd dim Saesneg gan eu llysfam newydd, felli Cymraeg oedd iaith y teulu nawr. Roedd ardal Pentretygwyn yn ardal Gymraeg hefyd, ac roedd Pantycelyn, cartref William Williams i’w weld o glôs Aberpedwar.

Roedd William yn dal i weithio ar y rheilffyrdd ac roedd yn rhaid iddo gerdded y pedair milltir i’r gwaith bob dydd. Jane fu’n gofali am y plant a’r ffarm, ac mae cyfrifiad 1881 yn ei disgrifio’n syml fel ‘farm-woman’. (Mae’n rhaid nodi fod Jane yn cael ei chyfrif fel mam ardderchog i Willie a’i chwaer, ac mewn amser fu’n fam‑gu garedig ac annwyl i blant Willie.)

            Erbyn 1991 roedd y teulu wedi symud i ffarm Pantybryn ger Cilycwm. Ffarmwr oedd William bellach, ac wedi gorffen gweithio ar y rheilffyrdd. Mae cyfrifiad 1991 yn ei ddisgrifio fel cyflogwr, er mae Willie ei fab, nawr yn ddeuddeg a saith, oedd yr unig was ar y ffarm. Roedd Cilycwm yn ganolfan pwysig ar ffordd y porthmyn fu’n arwain o Sir Aberteifi i Loegr, er yn dawelach lle ers dyfodiad y rheilffordd. Hefyd roedd y bryniau o amgylch y pentref yn frith gyda gweithfeydd mwyn. Roedd yno felinau gwlân a melinau blawd. Roedd y nawfed ganrif ar bymtheg yn adeg lle fu tipyn o symud o le i le. Pobol yn gadael eu cartrefi i chwilio am waith. Roedd y byd heb droi’n fecanyddol eto ac roedd angen pobol i droi olwynion cymdeithas yn ei niferoedd.

            Daeth Ifan Davies gyda’i rhieni o Sir Aberteifi i ffarmio. Garddwr oedd Ifan yn Neuadd Fawr. Priododd Mary Ann Jones, Glan Croyddur, roedd ganddynt un ferch, Catherine May. Mewn amser i ddod byddai Ifan yn Bost Feistr yn swyddfa bost Cilycwm. Roedd rhieni Ifan, Elinor (Neli) a Dafydd, yn byw ar ffarm Groes, Cilycwm. Tra bu Neli yn dioddef cyfnod o afiechyd daeth ei nith Hannah, a oedd yn byw yn Waunuchaf ger Llanddewi Brefi, i ofali am ei modryb, sef chwaer ei diweddar mam Rachel. Roedd cefnder Willie, sef Tom Jones o Gilfach ger Llanwrda ac Ifan yn ffrindiau mawr. Wrth ymweld â ffarm Groes yng nghwmni ei gefnder daeth Willie i gyfarfod a Hannah. Dros amser aeth Willie a Hannah o fod yn ffrindiau i fod yn gariadon.

            

Tom Jones, Gilfach    

Ar ôl i Neli wella aeth Hannah yn ôl i Waunuchaf. Ar ôl marwolaeth ei mam Rachel ym 1890, Hannah fu’n cadw’r tŷ i’w thad. Bu Willie’n ymweld â’i gariad mor aml â phosib. Roedd yn rhaid iddo gerdded pymtheg milltir a dringo tri mynydd i’w gweld. Dilynai ffordd y porthmyn dros fynydd Mallaen ac i lawr i hen gartref ei dad yng Nghwrtycadno. Lan Cwm Cothi at ffarm Garthynty, heibio Nantyrast ac ymlaen o dan gysgod Crug Siarls. Dros y tir corslyd rhwng Blaen Cothi a Blaen Twrch ac i fyny dros Mynydd Llanddewi at Waunuchaf. Saif y ffarm i’r dwyrain o bentref Llanddewi Brefi yn y bryniau o dan gopa Pen Crug, ar lannau Nant Digonest. Bu Daniel Evans yn sâl iawn ar ddiwedd ei oes, a bu Hannah yn gofalu amdano. Roedd hi’n amhosib i Hannah a Willie ystyried priodi tra bod gan Hannah cymaint o gyfrifoldeb. Ond bu farw Daniel ym mis Chwefror 1909. Felli o fewn dau fis, priodwyd y ddau yn eglwys y plwyf Llanddewi Brefi ar 24ain o Fawrth 1909. Ganwyd ei phlentyn cyntaf, Martha Jane ar y 30ain o Ragfyr yr un flwyddyn.

waunuchafnow.jpg (14258 bytes)  

Waunuchaf

Roedd Willie’n drideg-pump pan symudodd i fyw yn Waunuchaf; roedd Hannah yn drideg. Roedd y ffarm yn gartref hynafol, o’r ail ganrif  ar bymtheg o bosib. Ty-un-nos oedd yn ôl y teulu, gyda thua hanner can erw o dir. Roedd yn rhan o stad Y Garth. Cefnder i Hannah oedd Daniel J Rowland y sgweier. Er hynny roedd rhaid talu rhent bob blwyddyn. Roedd traddodiad fod Waunuchaf yn gofalu am braidd Y Garth yn ogystal â phraidd ei hunain. Crwydrau’r  defaid dros y ffridd o dan Pen Crug a’r Esgair. Tir uchel heb lawer o goed yn cynnig cysgod. Roedd Willie bellach yn fugail.

            Un o’r pethau cyntaf wnaeth Willie yn Y Waun, fel y gelwir, oedd newid y to gwellt am do newydd ‘modern’ o sinc a thar. Tan ar y llawr oedd yr unig ffordd i goginio gyda hen ffwrn yn y simdde i wneud bara. Yn y dyfodol fydda’i yma dân haearn du, ond ddim eto. Mwy na thebyg mae hen dy hir oedd yma, ac yn wir roedd drws yn agor yn syth i’r stabl o’r gegin. Caewyd hwn ac adeiladwyd llaethdy newydd ar y clôs o flaen y t. Newidiwyd yr hen laethdy i fod yn ystafell wely bach. Roedd yno barlwr, ond mewn gwirionedd hwn oedd y brif ystafell wely. Hefyd roedd atig i’w gyrraedd ar ôl dringo ysgol gyda stepiau llydan. Roedd beudy i ddwy fuwch, cartws, t’r lloi, twlc a chwt i’r hwyaid. Roedd y sgubor a’r stabl yn sownd i’r t. Hefyd roedd yno dy gwair a thŷ tyweirch.

            Roedd Waunuchaf yn hunan gynhaliol. Roedd fynnon, heb sychu na rhewi erioed. Roedd gardd lysiau a thyfwyd llafur a llysiau fel tatws a bresych yn y caeau. Roedd llaeth o’r ddwy fuwch, wyau o’r ieir a’r hwyaid. ‘Loc’ y gaseg oedd yn tynnu’r aradr a lladdi’r mochyn am gig moch wedi berwi am gyfnod a chig moch wedi hallti am y flwyddyn. Fyddai Hannah yn cyfnewid wyau yn siop y pentref am de, siwgr, caws, paraffin ac weithiau, tybaco; roedd Willie yn smocio pib. Daeth gwres o losgi tyweirch a mawn. Lladdwyd y mawn yn y corsydd  lan  ar y mynydd uwchben Y Waun. Roedd lampau olew a chanhwyllau i oleuo’r nosweithiau tywyll.  

Roedd gan bob cae enw:  

Cae Cefn Ty Cae Gwyn
Cae Banc Isha  Cae Garw
Cae’r Ydlan  Cae Cware 
Y Banc Cae Nant 
Cae Pistyll  Waun Gwair 
Cae Cwterion Cae Canol
Cae Clofers  Cae Bach
Cae Carreg Lafar

 

Gofala Willie am ddefaid Y Waun a’r Garth gydag un ci defaid yn unig. Roedd adeg cneifio yn amser pan ddelo’r gymuned i gyd at ei gilydd i weithio. Roedd gan bob ffarm eu diwrnod cneifio penodol. Fu Hannah rhywsut yn paratoi cinio twym i tua deg o weithwyr ar y tan mawn agored. Tipyn o gamp. Roedd pob ffarm a’u mochyn. Lladdwyd y moch yma ar wahanol adegau o’r flwyddyn, ac roedd peth o’r cig yn cael ei rhanni ymysg y gymuned. Felly roedd cig ffres ar gael drwy’r flwyddyn. Tregaron oedd y mart agosa; roedd rhaid cerdded yr anifeiliaid yr holl ffordd i’w gwerthu. Roedd sawl ffatri wlân yn yr ardal ac roedd prynwyr yn dod bob amser cneifio i brynu’r gwlân. Fe gedwir peth gwlân ar gyfer defnydd personol. Fe aed a’r gwlân i’r felin i’w nyddu, a’r gwaith gwau yn hwyluso nosweithiau hir a thywyll y gaeaf. Fyddai peth o’r gwlân yn cael ei wehyddu fel  brethyn ar gyfer gwneud dillad. Roedd Hannah yn abl iawn yn y gwaith yma. Roedd hen droell nyddu a ffrâm gwŷdd yn Waunuchaf. Ond dim ond y gwŷdd ceir ei ddefnyddio bellach, a hynny ar gyfer adloniant yn unig. Roedd Hannah yn enwog am ei dawn farddonol, ac roedd pob achlysur pwysig neu ddigwyddiad nodweddiadol yn cael ei goroni gan bennill neu ddau. Am naw o’r gloch fydda’i Willie a Hannah yn troi am y ‘cae nos’, roedd bywyd yn galed ar y mynydd a chwsg oedd y moddion gorau. 

Ym 1912 ganwyd eu hail blentyn, Rachel Mary. Maes o law aeth y ddwy chwaer, Mattie a Ray, i ysgol y pentref lawr yn Llanddewi. Fu’r ddwy yn elwa o’r profiad. Yn wir, mae tystiolaeth yn bodoli i ddangos fod Mattie wedi ennill deg mas o ddeg ym mhob pwnc ac ar frig ei dosbarth. Aeth y ddwy ymlaen i’r ysgol sir yn Nhregaron, ac yn gorfod lletya yno. Er bod Willie a Hannah yn credu’n gryf fod addysg yn bwysig, roedd heb os yn gostus. Wrth gwrs, roedd Willie’n derbyn tal am ofali am ddefaid Y Garth, roedd hyn yn cyfrannu mae’n sicr.

            

  

Robert Sibbald Roland

Perchennog Y Garth erbyn hyn oedd Robert Sibbald Rowland, fu ei dad yn feddyg ym Mrif Ysgol Aberdeen, a phriododd merch Daniel J Evans y sgweier a chefnder Hannah. Priododd Robert Elizabeth Evans o westy'r Foelallt Arms yn Llanddewi, cnither iddo fe ac i Hannah. Pan fu Robert farw ym 1928 galwyd Hannah a Willie i glywed darlleniad yr ewyllys. Roeddent wedi etifeddu ffarm Waunuchaf. Siom oedd hyn i Mattie a Ray. Roeddent yn disgwyl etifedd o filiynau, a dim llai!

            Ym 1928 gadawodd Mattie i ddechrau ar yrfa fyddai’n para oes. Aeth i Aberystwyth i dderbyn hyfforddiant i fod yn nyrs. Aeth blwyddyn gyfan heibio cyn iddi gael cyfle i ddod adref. Roedd rhan o’r hyfforddiant yn mynd â hi i ysbyty Llandoch ger Caerdydd, pellter ofnadwy o Waunuchaf mewn mwy nag un ffordd. Cyn hir aeth Ray i ddechrau hyfforddiant yn ysbyty Selly Oak ger Birmingham. Fu Willie a Hannah yn dal wrthi’n ffarmio, ac wrth eu bodd yn gweld pobol yn galw i’w gweld. Roedd Waunuchaf yn ganolfan poblogaidd ymysg eu teulu a’u cymdogion. Roedd Willie yn medru plygu perth yn ddawnus , ac yn hapus i ddefnyddio’i alli yn yr iaith fain i lenwi ffurflenni swyddogol i’w gymdogion. Priododd Ray ym 1936 ac roedd ei gwr Bryn yn hapus iawn i dreulio’r gwyliau yn Waunuchaf yn enwedig amser gwair. Roedd croeso mawr i’r dwylo ychwanegol. Roedd teulu Bryn, o Sir Forgannwg, hefyd wrth eu bodd yn dod i’r Waun am wyliau. Roedd gan chwiorydd Hannah deuluoedd mawr ac roedd Modryb Hannah ac Wncwl Willie yn boblogaidd ymysg eu plant. Roedd Willie llawn hwyl a direidi, a’r cartref yn adleisio gyda chwerthin yn aml. Dau ffefryn oedd Tommy a Henry Rees, meibion Marged, chwaer Hannah. Ar ôl gorffen eu gwaith, fe gerddai’r ddau'r holl ffordd o’i cartref ym Mhentrebwlen lan i’r Waun i gymdeithasu. Siwrne o tua chwe milltir i gyd. Roedd cwmni’r ddau yma yn sicr o gadw Willie o’r ‘cae nos’ tan oriau man y bore. Yn wir, heb gymorth Tommy a Henry gyda’r gwaith ffarm trwm fel amser gwair, fydda’i Willie wedi gorfod ymddeol yn gynt. Ond yn y diwedd, ymddeol a wnaeth.  Ar ddiwedd y pedwardegau gwerthwyd y creaduriaid a’r ychydig gyfarpar ffarm oedd ganddynt, ac ymddeol oedd rhaid. Roedd gan Ray blentyn bach, ac yn y pumdegau cynnar clywyd sŵn plant yng nghaeau Y Waun unwaith eto. Fu Mattie a Ray yn gwneud eu gorau i gael eu rhieni, (neu eu tad, i fod yn fanwl gywir), i werthu Waunuchaf a symud lawr i’r pentref, ond gwrthod, mewn ffordd addfwyn, wna Willie bob tro. Roedd yn gwbwl hapus yn ei fyd. Byd oedd heb newid am hanner canrif. Daeth ddr o’r ffynnon, roedd tân mawn i'w cynhesu, ac roedd lampau olew a chanhwyllau i oleuo’r nosweithiau tywyll. Yn union fel y bu wnaeth Willie symud yno ym 1909. Mae’n rhaid cyfaddef fod ganddynt radio bellach, gyda’r batri mwyaf welodd dyn erioed! Roedd yn rhaid cario un newydd yr holl ffordd o’r pentref pan fo angen. Daeth y ‘Cambrian News’ yn wythnosol, ac wrth gwrs y post, i gadw cysylltiad gyda’r teulu gwasgaredig.

            Roedd Willie Lloyd Jones yn ddyn o gyfnod a oedd wedi diflannu, ym mhobman heblaw am ar ben Mynydd Llanddewi. Doedd erioed wedi troi golau trydan ymlaen, byth wedi agor tap ar gyfer cael dwr, byth wedi defnyddio teleffon, byth wedi gyrru tractor, heb son am gar. Ar ôl dod i Waunuchaf, y pellaf aeth oddi yno oedd i Dregaron neu i Lanbed. Fe ddaeth o hyd i hapusrwydd a bodlondeb yno, yn y gwaith caled, yn y bywyd  syml ar y mynydd ac yng nghwmni ei gariad Hannah. Bu farw yn ei gwsg ar fore dydd Llun Hydref y 18fed 1954. Roedd yn 80 mlwydd oed.

      

              

 Adref               Copa