Geraint Griffiths

Hewl Ni Yw'r Dyfodol - sengl Donegal Glastir Miya-Jima Clwb Dydd Sadwrn Havana

Ganwyd Geraint ym Mhontrhydyfen, yn Sir Forgannwg i deulu cerddorol Cymraeg. Dros y blynyddoedd mae wedi byw yng Nghaerdydd a Llundain ond bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerfyrddin. Mae wedi bod yn gerddor sesiwn ag artist recordio ers 1973 ac yn aelod o sawl band fel lleisydd a gitarydd. Dechreuodd gyfansoddi pan oedd yn bedair ar ddeg mlwydd oed. Ym 1965, tra'n dal yn yr ysgol, ymunodd a'i fand cyntaf - The Undecided. Ym 1976 ar ol rhai blynyddoedd yn Llundain, lle bu'n aelod o’r grŵp roc-gwerin Limbotrol a'r bandiau roc Boots a Butty, daeth 'nol i Gymru.

Ei recordiadau cyntaf Cymraeg oedd fel cerddor sesiwn gyda Edward H Dafis, Hergest ac ar recordiad o’r opera-roc Nia Ben Aur.  Ymunodd gyda chyn aelodau Edward H, Sidan a’r canwr a chyfansoddwr Endaf Emlyn i ffurfio Injaroc. Parodd y grŵp roc-ffwnc am flwyddyn a recordiwyd un record hir, Halen Y Ddaear. Gyda chyn aelodau'r band roc Chwys, ffurfiodd Geraint Eliffant. Geraint oedd y prif leisydd a’r unig gyfansoddwr. Bu Eliffant gyda'i gilydd am saith mlynedd. Recordiwyd dwy record hir, MOM a Gwin Y Gwan a dwy record sengl. Ym 1984 dechreuodd Geraint ei yrfa fel unawdydd, recordiodd tair record hir o’i ganeuon yn y cyfnod yma, sef Madras, Rebel a Ararat. Hefyd, Geraint oedd un o dri unawdydd ar fersiwn Gymraeg o’r "Young Messiah" sef Teilwng Yw’r Oen. Mae CD o’r caneuon yn dal i fod yn boblogaidd; cyhoeddwyd y record hir wreiddiol ym 1984. Mae catalog Cwmni Recordiau Sain yn ei ddisgrifio fel "un o brif gantorion roc Cymru" gyda’i "lais gwych". Roedd y rhan fwyaf o’i waith recordio, a phob un o’r recordiau uchod ar label Sain.

Fe ddechreuodd ei yrfa broffesiynol ym 1985 trwy recordio cyfres deledu chwe rhan, Nol Ar Y Stryd. Mae Geraint wedi cyflwyno rhaglenni plant poblogaidd ar S4C, yn enwedig Ffalabalam, Ty Chwith a Dicwm Dacwm. Bu’n actio mewn cyfresi drama fel Pobol Y Cwm, Pris y Farchnad, Darn O Dir a Con Passionate, a ffilmiau teledu fel Y Cloc, Derfydd Aur , Fel Dail Ar Bren, Y Fargen a Dirgelwch Yr Ogof a'r gyfres i ddysgwyr, Talk About Welsh. Hefyd mae’n actor radio, wedi ymddangos mewn dramâu fel Ponty a Rhydeglwys ar Radio Cymru a A Small Country ar Radio 4.

 Ym 1992 sefydlodd Geraint label recordio Diwedd Y Gwt. Y casgliad cyntaf ar Diwedd Y Gwt oedd y casét Donegal, ac ym 1998 cyhoeddwyd y casgliad ar CD. Cyhoeddwyd Hewl ym 1999, GLASTIR yn 2001, Miya-Jima yn 2005, Clwb Dydd Sadwrn yn 2007 a Havana, hefyd yn 2007 . Mae hefyd wedi cynhyrchu recordiau ar gyfer bobol eraill yn ogystal ag iddo’i hun, fel CD Dylan Davies - Y Daith (2002), a CD Geraint Davies - Geraint Davies (2007).

Y casgliad diweddaraf o'i stiwdio yng Nghaerfyrddin yw'r 'EP' chwe trac Brooklyn yn 2017. Mae Brooklyn ar gael i'w lawr-lwytho ar Amazon, Google Play a iTunes.

Mae Havana, Miya-Jima, Glastir a Donegal ar gael i'w lawr-lwytho ar iTunes, Google Play a Amazon.

 

| english |