Geraint Griffiths

adref

bandiau

cofiant

disgyddiaeth

siop

 

LIMBOTROL            

Brian Burns.  

Gitar, organ geg, llais.

Steve Dunachie.   

Ffidil, fiola, mandolin, llais.

Randy MacDonald.

Ffliwt, offer taro, llais.

Bob McFarland.  

Ffidil fas, mandolin, llais.

Geraint Griffiths.

Gitar, banjo 5 tant, llais.

     Band acwstig, yn perfformio cymysgedd o ganeuon gwreiddiol a chaneuon bobl eraill, oedd Limbotrol. Bu y band yn teithio dros Loegr a’r Alban, tra’n byw yn Ne Llundain. Clybiau gwerin oedd eu prif lwyfan, a hynny rhwng 1972 a 1974. Er bod Island Records wedi dangos cryn dipyn o ddiddordeb, ni ryddhawyd yr un record gan y band, dim ond tapiau demo sydd mewn bodolaeth. Ym 1974 trodd y band i fod yn fand trydanol, a newydodd yr enw i Boots. Yn wreiddiol Art Damm o Texas fu’n drymio, daeth Charli Britton i’r adwy pan aeth Art yn ol i’r U.D. Bu Boots yn gigio yn Ne Llundain, ac eto, dim ond tapiau demo gaeth ei recordio. Mae Steve Dunachie wedi gweithio gyda band Polly Bolton. 

BUTTY

Dave Bott.

Allweddellau, llais.

Charli Britton.

Drymiau, llais.

Bob McFarland.

Bas, llais.

Geraint Griffiths.

Gitar, llais.

 Roedd Butty yn galw eu hun yn Anglo- Welsh Band. Bu'r mwyafrif o'r gigs yn Ne Llundain, yn enwedig yr Half Moon, Putney. Ysgrifennwyd y caneuon gan y band a defnyddiwyd ambell fersiwn o ganeuon Robbie Robertson (The Band) hefyd. Daeth Pete Armitage i chwarae bas pan adawodd Bob i ddilyn ei yrfa fel meddyg. Roedd Charli hefyd yn chwarae gyda Edward H Dafis ar y pryd. Roedd Geraint yn chwarae gitar i EHD yn achlysurol ar lwyfan pan oedd e’n yn ymweld ā’i gartref. Roedd e’ hefyd yn recordio gyda nhw, ac mae i'w glywed yn chwarae’r gitār a chanu ar Hen Ffordd Gymreig, a Sneb Yn Becso Dam.

INJAROC

Charli Britton.

Drymiau.

Hefin Elis.

Gitār, llais.

Endaf Emlyn.

Gitār, llais.

John Griffiths.

Bas, llais.

Cleif Harpwood

Offer taro,llais.

Caryl Parry Jones

Allweddellau, llais

Sioned Mair.

Llais.

Geraint Griffiths.

Gitār, gitar ddur, llais.

   Tair gig ar ddeg yn unig welwyd Injaroc yn perfformio dros yr wyth mis fu y band mewn bodolaeth. Cyhoeddwyd un record hir, Halen Y Ddaear. Yn y diwedd aeth Charli, Cleif, Hefin a John yn ōl i ail ffurfio Edward H, ac aeth Caryl a Sioned ymlaen I ddilyn gyrfaoedd fel unigolion. Bu Endaf a Geraint yn trafod ffurfio band, ond dim ond un rhaglen deledu welodd perfformiad gan y ddeuawd. Aeth Endaf ymlaen i ffurfio Jip, ac aeth Geraint nōl i’r gorllewin gwyllt, a ffurfio Eliffant.

Mwy o hanes INJAROC yma!

 ELIFFANT

John Davies.

Gitar, llais.

Euros Lewis.

Allweddellau, llais.

Colin Owen.

Drymiau.

Clive Richards.

Bas, llais.

Geraint Griffiths.

Gitar, piano, llais.

Darllenwch "ELIFFANT- Stori Wir!" yma.

Bu Eliffant gyda’u gilydd am bron i saith mlynedd, yn perfformio led led Cymru ar ddiwedd y saithdegau a dechrau yr wythdegau. Dyma’r adeg pan oedd y sīn roc Cymraeg yn ei anterth. Roedd y band yn perfformio caneuon roc gwreiddiol, ac yn cael eu ystyried fel band roc y don newydd, sef, New Wave Rock. Adeiladodd y band un o’r systemau sain mwya pwerus yn y sīn roc Cymreig ar y pryd, tua 2k! Roedd Eliffant yn hoffi chwarae yn UCHEL! Gyda’r aelodau uchod, recordiodd y band ddwy record hir, M.O.M. a Gwin Y Gwan ar label Sain,ag un sengl ar label M.A.C.Y.M., a honno yw chlywed ar juke boxes mewn caffis a thafarndau dros Gymru. Derbyniodd Eliffant dlws Sgrech fel y prif grwp roc, yn y bleidlais gynta ym 1979, yn ol darllenwyr y cylchgrawn. Ar ol i Colin Owen adael y band, ymunodd Gordon Jones fel drymwr, un oedd yn gallu canu hefyd! Recordiwyd un sengl gan y band, sef, Ti Yw’r Unig Un I Mi / Tywyllwch. Dyma’r unig record a gyhoeddwyd ar label Llef, label personol Eliffant. Daeth gyrfa y band i ben ym 1984. Ers hynny mae’r aelodau wedi dilyn llwybrau cerddorol gwahanol, ond hefyd wedi cydweithio ar sawl prosiect. Ac yn wir, rhai blynyddoedd yn ol, tua deng mlynedd ar ol i’r band chwalu, ail ffurfiwyd y band yn arbennig i berfformio yn ardal Llanarth a Felin Fach. Ers hynny mae Eliffant wedi aros yn dawel, ond o bryd yw gilydd daw sibrydion am atgyfodiad, mor belled, dim ond sibrydion ydynt!

GERAINT GRIFFITHS A'R BAND (1984 - 1988)                                                                                                                                  

Myfyr Issac.

Gitar a llais cefndir.

Graham Land.

Drymiau ac offer taro.

Chris Childs.

Gitarau bās.

     Graham Smart.      Allweddellau.

Geraint Griffiths

Llais.

Chris Winter oedd yn canu’r sacsoffōn, allweddellau, ac yn ychwanegu llais cefndir. Toni Carroll a Linda Jenkins fu’n canu lleisiau cefndir yn gyson i Geraint ar record ac ar lwyfan.

GERAINT GRIFFITHS A'R GWEHYDDION (2000 - 2006) 

Geraint Davies Gitar a llais
John Griffiths Bās a llais
Geraint Griffiths Gitar a llais

Sefydlwyd y band yn wreiddiol fel 'band bore Sadwrn' i chwarae a chanu (ac i fynd am ginio yn y dafarn leol). Ond maes o law, fu'r band yn perfformio dros Gymru. Bu sawl perfformiad ar y teledu a'r radio ac fe gyhoeddwyd CD, Clwb Dydd Sadwrn, yn 2007. Mewn ambell gig bu Myfyr Isaac (gitār) a Geraint Cynan (allweddellau) yn perfformio gyda'r band.

 

Bandiau Ysgol.

THE UNDECIDED. (Haf '65 ) a'r DREAM TIME PEOPLE

John Davies.

Bas. (Ddim o Eliffant)

 

Mike McCarthy.

Llais.

Phil Murphy.

Drymiau

Keith Williams.

Gitar Flaen.

Geraint Griffiths.

Gitar Rhythm a Llais.

 

 

Ffurfiwyd y band yma ym mis Mai 1965 yng Nghwm Afan ger Port Talbot, Sir Morgannwg. Roedd y perfformiad cyntaf yng Nghlwb Ieuenctid Pontrhydyfen ar Orffennaf 1af. Bu chwe gig arall naill yn y clwb ym Mhontrhydyfen neu yn y Y.W.C.A. yng Ngwm Afan. Yn y gig cyntaf roedd yn rhaid i’r bas, gitār rhythm a’r lleisiau fynd drwy’r un amp! Gwellodd y cyfarpar rhyw ychydig dros yr haf, ond ddim llawer. Hen ganeuon R&B a chaneuon y Rolling Stones oedd y set wreiddiol, ond cyn hir cyflwynodd Geraint ganeuon y Byrds a Donovan i’r band. Daeth asiant adloniant o Aberafan i weld y band yn ymarfer yn neuadd Aelwyd yr Urdd ym Mhwll Y Glaw, roedd diddordeb ganddo i gynnig gwaith i’r bechgyn, ond doedd hyn ddim i fod. Am y rhesymau traddodiadol sy’n bellach yn ystrydeb, chwalodd y band, o achos “gwahaniaethau cerddorol”. Does yr un llun na recordiad yn bodoli o’r cyfnod. Aeth John Davies, (nid yr un yn Eliffant), a Geraint ymlaen i ddechrau band newydd. Math o glwb cerddorol oedd y band yma, clwb bore Sadwrn. Ni ddewiswyd yr un enw i’r band, ond cafodd The Dream Time People ei ystyried, chwe degaidd iawn!                               

John Davies. 

Gitār & Llais.

Hefin Ellis. 

Gitār 12 tant & Llais

Darrell Watkins.

Llais.

Geraint Griffiths.

Gitār & Llais.

  Maes o law ymunodd John Griffiths ar y bās. Caneuon y Byrds, Beatles a’r Who oedd y ffefrynnau. Roedd y bechgyn yn dwlu canu harmonļau, a bu’r Clwb Sadwrn yma yn baratoad gwych ar gyfer eu dyfodol cerddorol. Aeth Hefin Ellis (Elis nawr) a John Griffiths ymlaen i ffurfio Edward H. Dafis, a bu’r ddau wrth gwrs, gyda Geraint, yn aelodau o Injaroc.        

                                                                                                                

| english |