Geraint Griffiths

 

 

 

 

 

Eliffant

eliffant

Sain SCD 2283

 

Eliffant - anifail mawr, trwm, anodd ei osgoi. Hwyrach fod y nodweddion hyn wedi effeithio’r dewis o enw ar grwp newydd ddaeth at ei gilydd yn Ne Orllewin Cymru yn niwedd y 70au. Neu’r chwedl lleol fod llongddrylliad wedi digwydd oddi ar yr arfordir gerllaw gyda syrcas ar fwrdd y llong, a bod eliffant wedi’i ganfod a’i gladdu yng Nghaerfyrddin?

Grwp newydd, ie. Ond cerddorion profiadol. Roedd Geraint Griffiths, wedi cyfnod yn Llundain, wedi dychwelyd I Gymru ac ymgartrefu yng Nghaerfyrddin er mwyn ymuno a nifer o’i gyfoedion o Bontrhydyfen yn y grwp Injaroc, ond llai na blwyddyn yn ddiweddarach, roedd y grwp ar chwâl, a Geraint, am y tro cynta ers blynyddoed, heb grwp i’w gynnal e.

Roedd na sôn am ddechrau grwp gydag Endaf Emlyn, ei bartner yn Injaroc, a John Gwyn o Brân (ac Eliffant oedd un o’r enwau posib ar y grwp hwnnw), ond yn y diwedd am resymau cerddorol a daearyddol, sefydlodd Endaf a John y grwp Jîp yng Nghaerdydd, ac arhosodd Geraint am ei gyfle yng Nghaerfyrddin.

Ac fel roedd hi’n digwydd, roedd yna grwp gerllaw oedd newydd golli’u ceffyl blaen. Un noson, galwodd John Davies, gitarydd Chwys, heibio ac esbonio fod Sulwyn Rees( yr unig ganwr Cymraeg i ddefnyddio chwip fel rhan o’i act lwyfan) wedi gadael, a bod y tri arall (John, Clive Richards a Colin Owen)am gario mlaen. Hwlffordd oedd canolfan bois Chwys, felly roedd hi’n gymharol rwydd cyfarfod am "jam" i weld a allai rhywbeth ddatblygu rhyngddyn nhw a Geraint, a fel’na buodd hi. Roc trwm oedd maes Chwys, yn wahanol i steil mwy Americana-aidd Geraint, ond fe asiodd y cyfan yn dda ar wahan i un bwlch amlwg - allweddellau. Nid am y tro ola, dangosodd John Davies ei ddawn fel "Mr fix-it" y grwp, a thynnu Euros Lewis i mewn. Drama oedd maes hwnnw, a doedd e erioed wedi bod mewn band o’r blaen, na chwaith yn berchen ar unrhyw offer - ond, roedd e’n gallu ‘whare, a roedd hynny’n ddigon.

copa

Cyn hir, roedd y grwp newydd pum aelod ar yr hewl. Geraint oedd yn cyfansoddi’r caneuon, ac yn eu canu nhw, gyda phob aelod a’i gyfrifoldeb offerynnol ei hun. Roedd y pwyslais o’r cychwyn cyntaf ar werthoedd cynhyrchu - cafodd offer sylweddol ei fenthyg, yna’i brynu, a thyfodd criw o gwmpas y band i ofalu am yr ochor dechnegol a’r cario (rhywbeth cymharol newydd yng Nghymru ar y pryd). Perfformiwyd gynta ym mis Mai 1978, a sefydlodd Eliffant ei enw ar y ffordd. Tyfodd y diddordeb a’r dilyniant, ac yn gynnar ym 1979, recordiwyd y record hir gynta "M.O.M." (Mas o ‘ma -yn tanlinellu cefndir Gorllewinol y band) yn Stiwdio gynta Sain yng Ngwernafalau, gyda Hefin Elis yn cynhyrchu.

Roedd y clawr (llun o astronot yn hongian yn y Gofod) yn adlewyrchu thema mwyafrif y caneuon, (roedd na sticer ar bob copi hefyd - cartwn o eliffant). O ran y gerddoriaeth, roc syml ac uniongyrchol yn cadw at un arall o hanfodion y grwp – sef eu bwriad i allu atgynhyrchu’r swn llwyfan yn y stiwdio, ac fel arall.

Llwyddodd ‘M.O.M’ yn rhyfeddol - hon, a’u gwaith cyson ar lwyfannau ledled Cymru enillodd wobr y cylchgrawn ‘Sgrech’ fel Grwp y Flwyddyn ar gyfer 1979, ac o fewn dim roedd hi’n bryd dychwelyd i’r stiwdio.

Mae ‘Gwin y Gwan’, a recordiwyd ym Mehefin 1980, yn wahanol i ‘M.O.M.’ am nifer o resymau. Roedd y grwp wrth gwrs yn fwy profiadol a hyderus fel cerddorion ac fel grwp, ac o ganlyniad ron nhw’n barod ac yn awyddus i gyd-gynhyrchu gyda Hefin Elis y tro hwn. I gryfhau’r tîm ymhellach, tynnwyd Phil Ault o Lerpwl i mewn, oedd a phrofiad eang o weithio gyda nifer o grwpiau yn Lloegr. Hefyd, roedd Sain wedi symud o Gwernafalau i stiwdio newydd tipyn mwy modern (a moethus) yn Llandwrog. Ar ben hyn oll, roedd nifer o’r caneuon, eto o waith Geraint, yn dangos cyfeiriad newydd, mwy personol i’w gyfansoddi, ochr yn ochr â thriawd o ganeuon o’i gyfnod alltud yn Llundain.

copa

Eto, roedd y clawr yn drawiadol - teyrnged (answyddogol) i "win y gwan", sef Guinness - arwydd o bwysigrwydd ochr gymdeithasol bywyd i’r grwp! Ond bywyd go iawn arafodd y momentwm yn ystod y misoedd ar ôl cyhoeddi "Gwin y Gwan"; y stori gyfarwydd o waith a bywyd teuluol yn cyfyngu ar amser i ymarfer a pherfformio. Blwyddyn o gloffi fuodd 1981, nes dod i stop yn niwedd y flwyddyn -penderfynwyd claddu’r Eliffant gydag urddas.

Nid dyna ddiwedd yr hanes, wrth gwrs. O fewn misoedd, roedd yr ysfa i berfformio (a chymdeithasu) gyda’i gilydd yn ormod i’r band, ac ail-gydiwyd yn yr awenau ym 1982, gyda Gordon Jones yn cymryd lle Colin ar y drymiau. Roedd na gyngherddau cofiadwy a nifer o ganeuon newydd i ddod - ond stori arall yw honna. Mae’r CD yma’n cofnodi gwaith yr Eliffant gwreiddiol ar record yn gyflawn (ag eithrio un gân oherwydd prinder lle) - gwaith sydd wedi dal yn boblogaidd yng nghartrefi ac ar donfeddi Cymru ers ugain mlynedd a mwy, ac sy’n dal mor ffres heddiw ag erioed.

Geraint Davies, Rhagfyr 2000

Y bobol:
Geraint Griffiths: prif lais, gitar acwstig a thrydan, llais cefndir, piano ar "Seren i Seren", piano trydan ar "Waun Uchaf"
John Davies: gitar flaen, llais cefndir
Euros Lewis – allweddellau, llais cefndir
Clive Richards – gitar fâs, llais cefndir
Colin Owen – drymiau

M.O.M (caneuon 1-10).:
Cynhyrchydd: Hefin Elis; Peiriannydd:Selwyn Davies yn Stiwdio Sain, Gwernafalau, Mawrth 1979
Cynllun clawr gwreiddiol: Wyn ap Gwilym/O’r Niwl; Llun-Rob Phillips
Gwin y Gwan(caneuon 11-19):
Cynhyrchwyr: Hefin Elis ac Eliffant; Peiriannydd: Phil Ault yn Stwdio "newydd" Sain, Gwanwyn 1980
Cynllun clawr gwreiddiol: Mei/Charli.
Y caneuon i gyd gan Geraint Griffiths ag eithrio "Serena" (Griffiths/Emlyn)
Hawlfraint GG(1-10),Cyhoeddiadau Sain (11-19)
Criw llwyfan y cyfnod: Bernard "Byn" Davies, Tudor Ellis, Jeremy Gleave, Emyr Bowen.

copa

Y caneuon:

Nôl ar y Stryd:
Cân allai gloi y gyfres o ganeuon am y Gofod a/neu datganiad fod GG "yn ôl" wedi chwalu Injaroc. Recordiwyd yn wreiddiol yn Stacey Road gan gwmni PA Saffari (Endaf Emlyn a Myfyr Isaac) – y fersiwn honno’n dal mewn cwpwrdd yn rhywle.

Breuddwyd:
Atgyfodwyd nes ymlaen fel "Breuddwyd fel aderyn" ar gyfer sioe deledu a record sengl i GG yn yr 80au. Rhan gynnar o daith Geraint i’w addysgu’i hun am y sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon.

Lisa Lân:
Fel nifer helaeth o ganeuon GG, wedi’i chyfansoddi ar y piano. Cân yn amau ai doeth oedd dychwelyd i Gymru bryd hynny. Enwyd Lisa, merch Geraint a Pauline, ar ôl y gân, nid o chwith.

Nôl i Gairo:
Mae gwreiddiau hipi-aidd GG’n dangos ar hon – y Gofod, y sêr a’r pyramidiau.

Seren i Seren:
Cyfansoddwyd yn y stiwdio – eto ar y piano. Un arall o ganeuon y Gofod, er na fwriadwyd creu record "thema" fel y cyfryw – "fel ‘na o’n nhw’n dod".

Serena:
Cân ar y cyd gydag Endaf Emlyn (a gyfansoddodd y gytgan) - dangosodd ei ddiddordeb yntau yn y pwnc gyda’r gân "Bys o’r Lloer" ar record hir Jîp.

W Capten:
Cyflwynwyd Capten Idole’n wreiddiol ar record Injaroc – dyma estyniad o’i hanes, a fe yw "arwr" y caneuon Gofod i gyd. Roedd hon mewn bod cyn ffurfio Eliffant (a mae fersiwn gynnar o hon yn yr un cwpwrdd a "Nôl ar y Stryd"). Ac ar ei diwedd, mae yna hanner cân arall ("Heddwch"…..) sy’n pontio rhwng hon a’r gân nesa.

Ble’r wyt ti?:
Eto – hanes y capten o safbwynt y rhai sydd wedi’u gadael ar ôl.

Teulu Mawr y Byd:
Er mai hon yw’r ola’, a oes angen troi nôl i’r gân gynta am ddiwedd hanes Capten Idole? Yn ôl GG, doedd dim llinyn pendant "Ro ni'n chware 'da'r syniad o aller newid y space-time continuum".

copa

Gwin y Gwan:
Os oes thema i’r record, goleuni a thywyllwch yw honna, a’r gwydred o Guinness yn symbol o hynny falle. Dyn yn dychmygu’r cyffro ar y stryd o safbwynt un sy’n dechre sylweddoli’i oed a’i gyfrifoldebau. Neu jyst teyrnged i beint da.

Gole Gwyn:
Rhes o syniadau is-ymwybodol yn holi nifer o gwestiynau

Merthyr
Cân y Mynydd Du
Ffair Caerdydd
:
Tair cân a sgwennwyd yn wreiddiol yn Saesneg tra’r oedd GG’n aelod o grwp Limbotrol yn Llundain bum mlynedd cyn eu recordio nhw fan hyn, gyda gweithiau Alexander Cordell yn ddylanwad mawr. Grwpiwyd y tair dan y teitl "Y Ganrif Ddiwethaf".

Y Falen Fawr:
Wedi gwirioni ar y gair "falen" (neu "felan" i chi’r Gogs) i gyfleu’r blues. Mor syml â hynna.

Llosgi’r Pontydd:
Ymdrech i gyfleu teimladau cymysg ynglyn â’r ymgyrch losgi tai haf, gyda chysgod Iwerddon hefyd yn bresennol.

Ffwl Ebrill:
Roedd rhaid gollwng un gân o’r gwreiddiol ar gyfer y casgliad yma, a hon aeth. "Ebrill yw mis ‘y mhenblwydd i – fi yw’r ffwl yn y gân, dwy'n meddwl".

Waun Uchaf (Cân Elin):
Fferm tad-cu GG (o ochor ei fam) ar fynydd Llanddewi Brefi, lle treuliodd e’ hafau di-ri’n blentyn, ac un flwyddyn gyfan yn mynychu’r ysgol leol. Enwyd y cartre presennol yng Nghaerfyrddin ar ôl y fferm, a chafodd Elin, merch hynaf GG a Pauline, gân i gystadlu â’i chwaer fach Lisa.

Mas o’r Coed:
Ymdrech i herio’r disgwyliadau i wr a thad barchuso a heneiddio’n dawel.

Golygwyd ac ail-feistrwyd yn Stiwdio Sain ym mis Mawrth, 2001 gan Siwan Lisa Evans.
Llun du gwyn o Eliffant : Pauline Griffiths. Lluniau eraill o gasgliad GG.
Clawr gan Charli Britton.            Nodiadau/Archifydd: Geraint Davies.
Diolch oddi wrth fois ELIFFANT i: Dafydd Iwan a chriw Sain am y casgliad hwn, i Gari Melville am y syniad, i Geraint Davies am y nodiadau a’r ymchwil, pawb a fu’n gysylltiedig â’r ddau albwm uchod, ac i holl ffrindiau Eliffant. Diolch yn dalpe a mas o ma!

copa

| english |