Y DECHRAU
"Pwy yw Injaroc? Wel, Injaroc yw'r grwp a bu hir ddisgwyl am ei ymddangosiad cyhoeddus cyntaf byth ers i Hefin Elis gyhoeddu ar ol chwalu Edward H. ei fod am ffurfio grwp newydd yn cynnwy wyth aelod. Yn y rhaglen gyntaf fe welwyd y canlyniad." Dyma eiriau y Radio Times am rhaglen gyntaf 'Twndish', a ddarlledwyd gan BBC Cymru ym 1977. Mae stori Injaroc yn dechrau gyda band arall, sef Edward H. Dafis. Ffurfiwyd Edward H. ym 1973, a dros y tair blynedd ganlynol fe brofodd y band lwyddiant ysgytwol. Llwyddodd greu dilyniant ymysg pobol ifanc Cymru fu’n frwdfrydig a ffyddlon. Roedd noson ola’ Edward H yng Nghorwen yn enfawr. Daeth miloedd i’r achlysur yn yr hen neuadd sinc. Ffilmiwyd y cyfan gan HTV. Dyna fel oedd hi ym 1976. Ysgrifennwyd degau o erthygle ym mhapurau y dydd yn canu marwnad i’r band. Roedd profiad Injaroc yn dra gwahanol.
Roedd Charli Britton yn gweithio yn Llundain ar y pryd ac yn teithio
‘nol a blaen i Gymru i chwarae gigs gyda Edward H ar y penwythnosau. Roedd
hefyd yn chwarae mewn band roc yn Llundain gyda Geraint Griffiths. O bryd i’w
gilydd fe fydda’i Geraint yn dod ‘nol gyda Charli i chwarae gitâr gyda
Edward H. Roedd yn hen ffrind i Hefin ac yn gefnder i John Griffiths. Bu’n
recordio gyda’r band ar eu record cyntaf, ‘Hen Ffordd Gymreig’
a’r un diweddaraf, ‘Sneb Yn Becso Dam’. Roedd Caryl Parry Jones a
Sioned Mair yn aelodau o’r grwp ‘Sidan’, Hefin cynhyrchodd ei record hir, ‘Teulu Yncl Sam’.
Roedd Endaf Emlyn yn adnabyddus i bawb fel artist recordio ac roedd ei record
hir, ‘Salem’ yn cael ei chyfri’n glasur er nad oedd erioed wedi bod
yn aelod o grwp. Fu Charli, Hefin, John a Cleif Harpwood yn aelodau o Edward H wrth gwrs. Ar
ôl trafod y syniad yn ystod haf 1976 penderfynodd yr aelodau fentro arni.
Dechreuodd yr ‘hype’ yn gynnar ym mywyd y band. Trefnwyd sesiwn tynnu
lluniau yng ngwesty’r ‘Cliff’ yng Ngwbert. Ffilmiwyd yr aelodau ar
ddiwrnod heulog yn ymyl pwll
nofio’r gwesty. Llwyddodd Ken
Davies, y dyn camera, greu awyrgylch California yng Ngheredigion, wel, bron a
bod! Darlledwyd y ffilm fel eitem ar raglen newyddion y BBC.
Mae’n anodd credu fydda’i hyn yn digwydd heddiw.
Symudodd Geraint yn ôl i fyw yng Nghymru ym mis Hydref ’76 a daeth
Charli yn ôl yn fuan wedyn. Dechreuodd y band ymarfer ar ddiwedd y mis.
Treuliwyd penwythnosau cyfan yn ymarfer mewn gwahanol ganolfannau fel Aelwyd yr
Urdd, Caerdydd, neuadd pentref Dihewid, neuadd y pentref ym Mhenrhyndeudraeth,
ac yn bennaf, campws Prif Ysgol Aberystwyth. Bryn Jones, a oedd yn beiriannydd
gyda cwmni recordio Sain, fu’n trefni’r system sain. Roedd cwmni Sain
eisoes wedi dangos diddordeb yn y band ac wedi cynnig cytundeb recordio ar gyfer
record hir iddynt.
Roedd dylanwadau cerddorol cymysg iawn yn lliwio cyfeiriad caneuon y
band. ‘The Eagles’ efallai oedd
y dylanwad pennaf i ddechrau. Roedd Charli a Geraint yn hoff o ‘Orleans’,
band Americanaidd oedd yn defnyddio rhythmau ‘ffync’; fe ddaeth y dylanwad yma i’r amlwg dros yr wythnosau. Gan fod yr
aelodau i gyd yn medru canu roedd harmoni yn bwysig i’r caneuon. Dyma’r
rhestr o’r aelodau a’u cyfraniadau ar y pryd:
Roedd y papurau yn dechrau dihuno i’r sefyllfa. Dyma eiriau Y Cymro: “ Endaf Emlyn i ymuno a grwp newydd ac i ymddangos yn rheolaidd mewn cyngherddau led-led Cymru… …Bydd y grwp y mwyaf o’i fath o ran nifer yn hanes canu poblogaidd Cymraeg… …holl aelodau Edward H. Dafis ar wahan i Dewi Pws Morris…” *****
Ar ôl yr holl ymarferion roedd y band yn awyddus
iawn i berfformio. Daeth y cyfle cyntaf yn ‘Steddfod Ryng-golegol
Aberystwyth ar y 11 o Fawrth 1977. Ysgrifennwyd y caneuon ar gyfer y set gan
amryw o’r aelodau, dyma’r rhestr sydd ar gof:
Yn ôl profiad y band, fu’r noson yn llwyddiant. Roedd y gynulleidfa i’w gweld yn mwynhau’r gerddoriaeth newydd ac roedd y papurau Cymraeg yn llawn o’r hanes dros yr wythnos ganlynol: “ Gyda’r nos gwelodd cystadleuwyr y prynhawn y safon y dylid anelu ato pan gafwyd cyngerdd / dawns gan Grwp Heather Jones ac Injaroc……Aeth y sioe yn llyfn a slic….Defnyddiwyd tryloywderau, fflachiwyd enw’r grwp ar y sgrîn tu cefn i’r llwyfan, a syllai’r myfyrwyr ar y sioe na lusgodd am eiliad, yn union fel y gwnâi eu rhagflaenwyr ar grwpiau Saesneg amlwg a fu ar yr un llwyfan. Yr un oedd y safon……Anodd gwybod pwy ddylai gael y sylw pennaf petai Injaroc a Racing Cars yn rhannu’r un llwyfan…….Nid rhyfedd fod y Bonwr Hefin Elis yn gwenu fel cath ac yn symud mwy ar y llwyfan mewn dwy awr nag y gwnaeth mewn tair blynedd gyda Edward H.” Fu’r papurau yn dangos diddordeb yn yr ymarferion hefyd, yn Y Cymro eto: “…bydd yr wyth yn treulio cymaint o benwythnosau a phosib yn ymarfer yn rhai o neuaddau cefn gwlad Ceredigion.” ***** Yn Llangadog fu’r ail ymddangosiad. Roedd hon yn noson gofiadwy hefyd gyda bysiau wedi eu trefni i gludo pobol o ardal eang. Roedd pwyslais mawr ar greu sioe yn hytrach na dim ond perfformio rhestr o ganeuon. Roedd gan y band offer safonol a system sain broffesiynol. Defnyddiwyd goleuadau llwyfan i greu awyrgylch. Roedd pob can yn cynnwys harmonïau, rhai cymhleth ac uchelgeisiol ar adegau. Roedd presenoldeb dwy ferch ifanc ddeniadol a phawb mewn gwysgoedd yn arbennig i’r llwyfan yn beth newydd i’r byd roc Cymraeg. Ar y 9ed o Ebrill 1977 teithiodd y band i stiwdio Sain yn Llandwrog i ddechrau’r gwaith o recordio eu record hir Halen Y Ddaear. Y bwriad oedd i gynnwys y mwyafrif o’r set lwyfan. Y pryd hynny roedd y stiwdio’n dal i fod yn Gwernafalau, stiwdio wreiddiol y cwmni. Gwesty Dinas Dinlle fu’n gartref i’r aelodau am yr wythnos. Aeth y recordio’n hwylus iawn, yn bennaf am fod y band wedi bod yn ymarfer dros y misoedd ac wedi cael cyfle i berfformio’r caneuon o flaen cynulleidfa ar lwyfan. Hefyd, Bryn Jones, eu peiriannydd llwyfan oedd wrth y ddesg yn y stiwdio. Roedd pethau’n argoeli’n dda!... ‘Nol ar yr hewl, ac yn dal yn Sir Gar. Ar y 29ed o Ebrill gwelwyd y band yng Ngholeg Y Drindod, Caerfyrddin. Tair gig ym mis Mai: Mai 7ed Prestatyn. (Noson dda!) Mai 13 eg Theatr Felin Fach. (Noson dda iawn!) Mai 21ain Gwauncaegurwen. (Noson dda. Ffilmiwyd gan y BBC) Ar noson y 3ydd o Fehefin gwelwyd y band yn cael rhaglen gyntaf cyfres newydd 'Twndish' i’w hunain. Hanner awr gyfan o set. Eto derbyniad da ar y cyfan. Ond roedd cymylau duon ar y gorwel heb os.
Daeth awgrym o beth oedd i ddod ym Mhorthmadog ar nos Sadwrn 11eg o Fehefin. Roedd neuadd y dre yn bell o fod yn llawn. Noson siomedig, am y tro cyntaf i’r band. Roedd hyn yn brofiad newydd ac annisgwyl. Roedd pethau ychydig yn well yng Nghanolfan Rhydycar, Merthyr ar nos Sadwrn y 9ed o Orffenaf. Dyma sylwadau Dafydd Saer a aeth yno yng ngeiriau ei hyn ‘just for fun’: “…miwsig o safon anghyffredin o uchel….caed harmoneiddio cywir oddi wrth y ddwy ferch ( nid dim ond yn edrych yn neis – maent yn gallu canu hefyd) i lawnder llais Cleif, sydd wedi gwella yn ddiweddar… O gysidro mai dyna oedd eu 8ed sioe, mae gobaith mawr iawn i Injaroc.” Phew! Diolch Dafydd, mae’r trên ‘nol ar y cledrau, yn ydy? Wel ydy, tan cyrraedd gorsaf Pontrhydyfendigaid ta beth!
Roedd Twrw Tanllyd yn achlysur, ac Edward H. wedi gweld llwyddiant mawr yno. Yn wir, fu Geraint yn chware ‘da nhw yn eu gig ddiwethaf yno, ac wedi mwynhau y profiad yn fawr iawn. Roedd heno’n mynd i fod yn wahanol. I ddechrau pethe, ‘Shwn’ oedd yn mynd i orffen y noson fel y prif grwp. Digon teg wrth edrych ‘nol. Roedd y band wedi bod yn perfformio gyda’i gilydd am amser, ac wedi ennill eu plwyf. Roedd ganddynt ddilyniant. Falle bod ambell aelod o Injaroc yn gweld pethau yn wahanol, ond roedd dim drwg deimlad o gwbwl. Ond yr eiliad iddynt gerdded i’r llwyfan daeth gwaeddi o’r gynulleidfa. Clywyd ambell lais yn sgrechian – “ Edward H.” a “Dewi Pws” ac mewn amser – “Shwn! Shwn! Shwn!”. Wrth i Injaroc fynni berfformio’i set yn wrol fel petai, fe aeth y sgrechian yn fwy cas a phersonol, wedi ei aneli at Hefin a hefyd y merched. Erbyn i’r band orffen eu set roedd ambell gitarydd, heb enwi neb, yn gynddeiriog ac yn awyddus iawn i esbonio i aelodau Shwn, oedd yn pasio ar y ffordd i’r llwyfan, ei deimladau. O diar! Noson i'w anghofio. Ond anodd gwneud, gan fod y gig yn Top Rank, Abertawe
wythnos yn ddiweddarach yn gyfle unwaith eto i’r garfan fach gegog i leisio eu
barn. Ac er i Injaroc orffen y noson, Bran a Band Heather Jones derbyniodd y
gymeradwyaeth fwyaf. Ac ar ôl hyn i gyd, roedd ‘Steddfod Wrecsam ym mis Awst
yn aros fel blaidd am y diniwed. Ond, cyn ddiwedd mis Gorffenaf rhyddhawyd record hir y grwp.
Dyma beth ysgifenwyd yn Y Cymro:
“
…Mae cynllun llachar y llawes wedi ei seilio ar gynnwys can agoriadol y record
ac a rydd ei theitl iddi – ‘Halen Y Ddaear’. Ar y tu blaen ceir llun o
wyneb merch ddeniadol ben felen yn null naws y 50’au, ac ar y tu ôl ceir dau
fachgen mewn siacedi lledr moto beics.
Yn ôl cwmni Sain,
cyhoeddwyr y record, can y gobeithir y bydd yn apelio at Wil Sam yw’r gan
agoriadol, gan ei bod yn son am foto beics!
Amrywiaeth yw nodwedd
amlycaf gweddill y cynnwys yn ôl Hefin Elis. “Roedd yn arwyddocaol pan euthum
a’r tap i Lunain i’w dorri i un o’r technegwyr holi os mai’r un grwp a ganai’r holl ganeuon”, meddai. …Dewiswyd
y dwsin mas o tua dau ddwsin a berfformir yn rheolaidd gan y grwp, a hydera’r aelodau y bydd rhyddhau’r record cyn yr Eisteddfod, nid yn
unig yn ychwanegu at werthiant yn Wrecsam ond yn fodd i dderbyn mwy o
gyhoeddiadau.”
****
EISTEDDFOD WRECSAM A’R CYLCH 1977
Roedd gan y band deimladau cymysg wrth deithio i Wrecsam, yn enwedig ar ôl derbyniadau cymysg i’r record hir
a derbyniadau cymysg, a dweud y lleiaf, i’r perfformiadau byw!
Y Pafiliwn oedd y lleoliad cyntaf, adeilad ddi-naws o safbwynt perfformio
cerddoriaeth roc heb os. Mae’n amhosib disgrifio ansawdd acwstig y lle heb fod
yn negyddol. Mae hefyd yn lle anferth i’w llenwi, ond roedd tua dwy fil o bobol
yno. Ac i’r llwyfan cystadleuol hwn daeth y band. Carfan fach iawn fu’n
‘heclo’ y noson honno, ond er yn fach roedd yn ddigon i gael effaith. Galw am ‘Bran’, ‘Shwn’, ‘Edward H.’ a hyd yn oed
‘Dewi Pws’ wnaeth y criw swnllyd, unrhyw un on Injaroc! Ond mynnodd y band
gael sylw y gynulleidfa, yn heriog ar adegau, er hynny, noson drist oedd hon
i’r aelodau. Yr ysgrifen ar y mur a roedd dwy noson i ddod!
“Fyddwch
chi’n CRANI?” gofynnodd y posteri. Roedd y Cae Ras yn llawn ac yn barod am
noson dda. Roedd agwedd Injaroc wedi caledu ers nos Fawrth, ac roedd yr aelodau
yn barod i ddangos eu medr. Digon yw digon, ac roedd y Cae Ras yn arena
berffaith ar gyfer sioe fawr, y math o sioe oedd
o fewn galli Injaroc. Dyna deimlad y band ta beth. Roedd
Disgo’r Ddraig wedi cynhesu’r dorf yn barod, a’r bandiau arall yn
llu. Bran, Crysbas, Seindorf, Hergest, Josgin, Madog a Shwn. Ond roedd un peth
arall yn aros ar ochr y llwyfan fel petai. Roedd hi’n arllwys y glaw, yn
arllwys y glaw yn ddigon trwm fel bod rhaid gorffen y noson cyn i Injaroc fynd
i’r llwyfan. Roedd perygl i fywyd y perfformwyr o’r holl offer trydanol yn y
lle. Siom anferthol i’r band, a’r teimlad oedd, fod cyfle euraidd wedi ei
gipio gan y tywydd gwlyb.
Petai Injaroc wedi canu yn y Cae Ras fyddent wedi perfformio mewn pedair gig ar ddeg, ond y cyfanswm mewn gwirionedd oedd, tair ar ddeg. Anlwcus i rai ma’ nhw’n dweud! Diolch yn fawr a nos da! Epitaph Hefin Wyn yn Y Cymro: “Ac
yng nghyflawnder yr amser y penarglwyddyn a ddywedodd bydded taw ar Edward H.
Dafis. Ymwasgarer a deuer ynghyd ymhen chwe mis i ymffurfio grwp cerddorawl newydd. Canys Cymru sy’n barod am
rwp mawreddog yn gymysgfa o enethod del a gitaryddion gloyw. A bydded enw y grwp Injaroc. Bydd i Injaroc deithio i’r deheubarth, y canolbarth a’r gogledd, a defnyddied eu
doniau i ymserchu eu hun ymhlith ieienctyd Cymru. Na phoener am na chwyddiant,
na phroblemau ariannol na thechnegol. Gwneled hyn a rhyddhaed record hir a
llwyddiannus fydd. Disgleirio wna megis seren ar frig y rhos. Gwnaed yn ôl y cyfarwyddiadau, ond yn anffodus, aeth un peth o’i le – ni ddaeth y llwyddiant rhagordeiniedig.” “Yn
dilyn perfformiad yn llawn fflach yn Aberystwyth, a pherfformiad cyffrous yn
‘Roc Ar Y Waun’, gwelwodd y disgleirdeb i eiddo bwlb drydan lwchlyd. Bu
rhaid ildio lle ar y brig yn ‘Twrw Tanllyd’ ac ildio cymeradwyaeth i grwpiau
eraill yn Top Rank, Abertawe. Cipiwyd y gwynt o’i hwyliau yn Wrecsam. Bu’n
wythnos o gynhebrwng hir. Ac ni fu wylofain.” INJAROC “Ni
chyflwynwyd yr un cymeriad na delwedd ganolog i’r gwrandäwr. Doedd dim
sefydlog yno i uniaethu ag ef. O ganlyniad cai’r gwyliwr a’r gwrandäwr
drafferth i benderfynu sut i ymateb, a rhaid oedd penderfynu, ni ellid gwneud yn
reddfol. Pwy a beth y disgwylid iddo gymeradwyo? Mae meddalwch y gan ‘Halen Y
Ddaear’ yn hunllef. Nid oedd Injaroc yn cynyrchioli’r un dim. Gallu
a phersonoliaeth "Yr
hun a ddengys y record ‘Halen Y Ddaear’, yw bod gennym artistiaid sydd a’r
gallu a’r bersonoliaeth i arwain eu grwpiau a’u gyrfaoedd cerddorol eu
hunain. Profodd Endaf Emlyn hynny eisoes. Felly Cleif – a does ganddo’r un
cyfansoddiad ar y record hon. Dengys tu fewn llawes fursennaidd y record hon
mai’r un yw dawn Geraint Griffiths. Mae record hir a gyrfa o ganeuon disco yn
wynebu Caryl a Sioned. Yr hyn sydd ei angen yw criw o gerddorion i’w
cynorthwyo ar eu llwybrau unigol.” “Nid
oherwydd diffygion cerddorol y methodd Injaroc ond oherwydd diffyg personoliaeth.
Ar lwyfan o flaen cynulleidfa yr enilla pob grwp
ei blwyf. Roedd ymddangosiadau eisteddfodol
Injaroc yn brawf o’i anallu i drin cynulleidfa. O’i wynebu ag elfen
wrthwynebus, derbyn yr her, a thrwy sylw neu ddau go ddeifiol, gwneud ffyliaid
o’r gwatwarwyr cyn pen chwinciad a wnâi Dafydd Iwan. Yr un modd unrhyw artist
a wyr mai ar gledr ei
law y mae lle cynulleidfa. Dyna’r rheol bwysicaf. Nid yr elfen wrthwynebus a
wnaed i ymddangos fel ffyliaid yn “Cyffro Cyn Clwydo” Gwthio ffiniau ffwnc “Hawdd
deall y rhesymau dros fentro ffurfio Injaroc. Fe’u gwelir o arall eirio
geiriau Hefin Elis yn rhifyn Nadolig 1973 o’r cylchgrawn ‘Swn’. Ymgais i
ddatblygu. Gwthio ffiniau ffwnc. Hawdd deall methiant Injaroc hefyd o gofio
geiriau colofnydd ‘Y Faner’, Edward H. Dafis, yn Awst, 1973, wrth
gyfeirio at ffurfio grwp o’r un enw. ““Surbwch
llwyfan ydyw”” ac mae ““angen personoliaeth y tu ôl i ganeuon cyn y
llwyddiant i ennill poblogrwydd””. Yn hanes y grwp hwnnw sicrhawyd llwyddiant drwy ymddygiad
echblyg dau o’i aelodau ond anghofiwyd am yr anghenraid hwn wrth ffurfio
Injaroc. Ni chaniatawyd i’r un bersonoliaeth adweithio’n erbyn y surni.
Roedd Cleif Harpwood fel petai ar goll ar lwyfan yn amlach na pheidio.
Cadarnheir methiant cyfathrebol Injaroc o
graffu ar ateb aelod hynaf y grwp pan ofynnwyd iddo sgwrsio am y grwp. ““Does gen i ddim i’w ddweud o gofio am
y wasg Gymraeg fel y mae ar hyn o bryd””, meddai. Ni ymhelaethodd. Does dim
angen ychwanegu at y glasur o sylw. Siarad nes ei fod yn gryg a wna Steve Harley
i gael yr un effaith.
O ran adnoddau, gallu ac uchelgais, roedd
Injaroc i’w gymharu ag eiddo llawer o grwpiau Saesneg. Haedda ymdrech i’w
feirniadu yn yr un cyd-destun. “ “A mixture of West Coast / MOR /
country-rock / disco sounds played with no real conviction despite mastering of
technique”” fydda’r dyfarniad.” Edrych
ymlaen “Bu
Injaroc yn ddoeth i chwalu. Tro’n ferfaidd a wnâi i barhau. Byddai record
arall o ganeuon mor flasus â chosyn maethlon wedi llwyddo. Er dweud hynny
edrychaf ymlaen i wrando ar recordiau’r unigolion fel aelodau o grwpiau eraill
ac at recordiau unigol gan Endaf Emlyn. Mae ganddynt oll gyfraniad gwiw i’w
wneud, yng nghyflawnder amser.” Talentau
Unigol “Ond
er y chwarae tynn a’r amrywiaeth o arddulliau yn gwau yn gelfydd, a lwyddodd
yr arbrawf o greu grwp mawreddog drwy gyfuno doniau wyth o artistiaid sydd
gyda’r mwyaf talentog yng Nghymru? Naddo. Yr hyn a brawf y record yw bod eu
talentau unigol yn drech nag eiddo Injaroc. Beth
oedd Injaroc? Grwp ffwnc? Grwp roc trwm? Grwp a ddefnyddiai rhywioldeb Caryl a
Sioned a chaneuon disco nwyfus i ennyn poblogrwydd? Pwy oedd Injaroc? Geraint
Griffiths ac eraill? Endaf Emlyn ac eraill? Neu Caryl Parry Jones ac eraill?”
Hefin Wyn Sylwadau ‘politicaidd’?
“…Am
faint yn fwy mae’n rhaid i ni
ddioddef erthyglau fel hyn? Pam mae’n rhaid i ni, ddilynwyr y byd pop Cymraeg
gael ein dylanwadu? Pam na ddylen ni ddarllen barn ac adlewyrchiad chwaeth
bersonol yn hytrach na chael erthygl yn beirniadu’n deg ansawdd a safon
gerddorol grwpiau / artistiaid?” Ystyfnigrwydd
ieuenctid Cymru
“…Fel
un o’r trefnwyr y ddawns a gynhaliwyd yn Merthyr Tudful, Gorffennaf 9ed, yng
nghwmni Injaroc, fe hoffwn i ar ran fy nghyd-drefnwyr
a llawer o bobl ifanc leol sy’n digwydd bod yn ddi-Gymraeg diolch a
llongyfarch Injaroc ar eu perfformiad graenus a chaneuon chwaethus o safon
gerddorol arbennig o dda. Pob clod i bob aelod o’r grwp a phob hwyl am y
dyfodol.”
Malcolm Llywelyn. O leiaf ‘roedd
Injaroc yn wreiddiol “…Oherwydd
ni chafodd Injaroc gyfle i wireddu ei lawn botensial. Ni chafodd gyfle. Fe’i
llofruddiwyd gan ffyliaid byddar a’r iobs meddw a wrthododd wrando arno! Nid
oedd y wasg, ychwaith yn ddieuog. Chwarae i’r galeri wnaeth ein prif ohebwyr.
Beirniadu grwp ar ôl iddo fod mewn bodolaeth am tua phedwar
mis! Anhygoel. Y GAIR OLAF
Dechreuodd
stori Injaroc gyda grwp arall, sef Edward H. Dafis. Mae’n gorffen yn yr un modd. Ond nid gyda’r
grwp hwnnw yn unig. Mae’n dod i ben yng ngherddoriaeth a llwyddiant sawl grwp
arall, sef Bando, Eliffant a Jîp. Gyda’r holl gyngherddau, dawnsfeydd a recordiau hir ddaeth yn sgil
chwalu Injaroc.
Noder: Hawlfraint y cyfrannwr perthnasol. | english | |