Eliffant-Stori Wir! Rhan 2  |  1979  |  1980  |  M.O.M.  |  Gwin Y Gwan  |

 

Pan gwahanodd aelodau’r grwp Injaroc ym mis Hydref 1977 ar ôl ond blwyddyn o fodolaeth, tair gig ar ddeg, ac un record hir roedd Geraint heb fand am y tro cyntaf ers pedair blynedd. Doedd y sefyllfa yma ddim i bara. Un noswaith daeth John Davies i alw ar Geraint yn ei gartref yng Nghaerfyrddin, i ofyn iddo a fyddau diddordeb ganddo gyfarfod cyn aelodau Chwys. Roedd y canwr carismatig Sulwyn Rees, wedi gadael y band, ac roedd angen canwr newydd. Grwp roc oedd Chwys - yn cynnwys John Davies ar y gitâr, Clive Richards ar y gitâr fas, Colin Owen ar y drymiau a Sulwyn yn canu a defnyddio chwip mewn ambell i gan! Hwlffordd oedd cartref Chwys, felli daeth  John, Clive, Colin a Geraint at eu gilydd yn Johnston, ger y dref  am “jam” . Roc trwm oedd  cerddoriaeth Chwys, a’u set lwyfan yn cynnwys caneuon gan Deep Purple a Lead Zepplin. Dylanwadau Geraint oedd bandiau Americanaidd fel Crosby, Stills, Nash & Young, Orleans a The Band. Gwahanol iawn i Chwys!  Ond ar y noson honno fu’r bechgyn yn arbrofi gyda pob math o gerddoriaeth, hyd yn oed canu gwlad! Roedd hi’n amlwg, yn enwedig i Geraint fod yna fwlch anferth lle dylai’r allweddellau fod. Fel y bandiau Americanaidd uchod, roedd Geraint am ddefnyddio organ Hammond yn y gerddoriaeth. Dywedodd John Davies, ( yn nol ei arfer), fod dim problem. Roedd e’ yn adnabod y boi am y swydd, sef Euros Lewis o Theatr Felin Fach. Problem fach oedd y ffaith nad oedd Euros wedi bod mewn band o’r blaen, nac yn berchen Hammond. I ddweud y gwir doedd gan Euros ddim offer o gwbl, ond roedd e’n galler chwarae’r allweddellau, ac roedd e’n adnabod rhywun oedd yn adnabod rhywun byddai’n fodlon benthyg offer iddo. Felli ar noson oer ym mis Chwefror ’78 daeth Euros gyda phiano Fender Rhodes ag amp wedi eu benthyg i dafarn Half Way, Nantgaredig i ymuno gyda’r pedwar arall i ffurfio ELIFFANT.

Fu Eliffant yn canu caneuon gwreiddiol o’r cychwyn cyntaf. Geraint oedd yn cyfansoddi. Dyma adeg “Punk” a “New Wave”, roedd Eliffant yn perthyn i’r ail gategori. Roedd eu caneuon am y gofod, motobeics, ymwelwyr arallfydol, cariad, colled, gobaith a’r Aifft! Dros y cyfnod yma roedd y band yn ymarfer yn Theatr Felin Fach, ger Llanbed. Llwyddodd Euros fenthyg Mini Korg yn ogystal â’r Rhodes ar fenthyciad hir dymor. Gyda’r allweddellau, dau gitâr drydan, aml-leisiau a drymiau a bas awdurdodol iawn fel sylfaen, roedd y band yn datblygu swn grymus.

Neuadd goffa Pontyberem oedd i weld y perfformiad cyntaf, ar ddydd Gwener Mai 19ed 1978. Ysgrifennodd Hefin Wyn mewn adolygiad yn Y CYMRO am berfformiad Eliffant - “Grwp roc trwm a all roi neuaddau ar dan gyda’i chwarae cywrain”. Roedd yr ail gig ar y noson ganlynol yn Tal Y Bont, ger Aberystwyth, a’r trydydd ar Nos Sadwrn y 27ain o Fai ar faes  Sioe Amaethyddol Llanelwedd, yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd, braidd yn gynnar oedd eu hymddangosiad ar y llwyfan yn anffodus, sef chwech o’r gloch. Ysgrifennodd Hefin Wyn eto yn Y CYMRO: 

“Cyrhaeddais i wynebu heidiau yn heglu o’r sgubor…….Roedd Eliffant wedi cwpla perfformio…..Clywais ganmoliaeth ddiwahân ac ofnais fod y sioe, i bob pwrpas, eisoes drosodd”. 

Trefnwyd y ddau gig cyntaf gan Tegid Dafis i godi arian ar gyfer Cymdeithas Yr Iaith. Trefnwyd gig Llanelwedd gan Geraint Davies i'r Urdd. Daeth gigs arall yn eu sgil. Mehefin 16eg, Aberystwyth. Gorffennaf 1af, Porthmadog. Gorffennaf 29ain, Llanybydder. A dwy waith yn ystod Eisteddfod Genedleithol Caerdydd yng Ngerddi Sophia ar nos Sadwrn  Awst 5ed a nos Wener Awst yr 11. Trefnwyd y nos Wener gan Saffari, cwmni oedd yn llogi system sain, ac yn bwriadu dechrau cwmni recordio. Prif aelodau cwmni Saffari oedd Endaf Emlyn, cyn aelod o Injaroc, a Myfyr Isaac, cyn aelod o’r grwp Budgy. Cwmni proffesiynol iawn, a chafodd Eliffant eu siomi ar yr ochr orau  gan safon y goleuadau a safon y sain. Hwn oedd yr ansawdd sain gorau a grëwyd gan y band hyd yn hyn. Dwedodd Geraint ar y pryd: “…er bod adlais anferth yn y neuadd, roedd y ddau berfformiad yn werth chweil…..Roedd y sain yn fendigedig.” Eliffant oedd prif grp y noson gyda BRAN a’r TRWYNAU COCH yn cymortha.

copa

 

Erbyn hyn roedd y band yn perfformio’n gyson. Ar lawer o benwythnosau fyddent yn perfformio ar nos Wener a nos Sadwrn yn olynol. Roedd pob aelod a’i waith beunyddiol.  Roedd Euros yn ddarlithydd yn Theatr Felin Fach, roedd John yn gweithio i Fanc Barclays, roedd Colin yn beiriannydd electronig yn gweithio i’r Swyddfa Bost, llyfrgellydd oedd Clive ac roedd Geraint yn rheoli theatr lawfeddygol yn Ysbyty Glangwili, ger Caerfyrddin. Dyma oes aur y byd roc/pop Cymraeg. Roedd lleoliadau perfformio dros Gymru gyfan, gyda digon o fandiau i gynnal dawns neu gyngerdd ar bob nos Wener a nos Sadwrn drwy’r flwyddyn. Bu Eliffant yn perfformio ynddynt i gyd. Medi 3ydd, Theatr Clwyd, Wrecsam. Medi 29ain, Coleg Y Drindod, Caerfyrddin. Medi 30ain, Dre Fach, Felindre. Hydref 6ed, Dixieland, Rhyl. Hydref 7ed, Abertawe. Hydref 14, Felin Fach.Tachwedd, 17eg, Bangor. Tachwedd 22ain, Half Way, Nantgaredig. Rhagfyr 1af, Dixieland, Y Rhyl. Rhagfyr 22ain, Clwb Tan Y Bont, Caernarfon. Roedd y band hefyd yn recordio eitemau ar gyfer y radio a’r teledu i HTV a’r BBC. Recordiwyd y traciau cyntaf ar gyfer gwneud record yn Stiwdio Stacey Road, Caerdydd. Dyma’r tro cyntaf i Saffari fentro cynhyrchu record, ac yn wir yr unig dro. Des Bennett o’r BBC oedd y peiriannydd, a’r cynhyrchydd  oedd Richard Mainwaring. Aeth Richard ymlaen i weithio gyda artistiaid rhyngwladol fel Van Morrison. Yn ystod y sesiwn yma cafodd gymorth Endaf Emlyn a Myfyr Isaac. Wrth gwrs, roedd bechgyn Eliffant yn ddigon parod i fynegi barn, doedd dim diffyg hyder ym mysg y band o gwbl! Y caneuon a recordiwyd oedd Nôl Ar Y Stryd a W Capten.  Ni rhyddhawyd y recordiad.

Roedd y “swn” yn holl bwysig i’r band. Roedd ymarfer yn chwarae rhan allweddol i’w cynllun. Ag eithrio Colin, doedd e’ ddim yn canu, fu’r gweddill yn cwrdd yng nghartref Geraint yng Nghaerfyrddin, o amgylch y piano i ymarfer y lleisiau cefndyr a’r harmonïau. Ac unwaith yr wythnos fyddent yn cwrdd am ymarfer llawn. Felin Fach oedd y lleoliad gwreiddiol, ond roedd hi’n amlwg erbyn hyn bod angen lleoliad mwy canolog i gyfarfod. Dyma pan ddechreuodd y band eu cysylltiad hir gyda ardal Crymych yn Sir Benfro, yn enwedig y CRYMYCH ARMS. Roedd hi’n arferiad i gyfarfod yn y dafarn am beint neu ddau o Guinness, cyn mynd i ymarfer yn neuadd Ffynnon Groes neu ysgol fach Bryn Berian. Roedd y cyfarfodydd yma yn gymaint o achlysuron cymdeithasol ag unrhyw beth arall, ac weithiau fyddai’r Guinness yn cymeryd blaenoriaeth, ag aros yn y Crymych Arms wnelo’r bechgyn, a’r offer yn aros yn dawel yn y ceir. Sôn am offer, roedd hwn yn chwarae rhan bwysig iawn i sicrhau ansawdd y sain. Tua’r adeg yma, mewn cyfweliad gyda Clive Jones ar gyfer y cylchgrawn ASPRI, rhestrodd Geraint offer y band:

copa

Geraint: Gibson SG gyda Di Marzio pickup. Fender Twin Reverb.
John: Fender Stratocaster. Fender Twin Reverb
Clive:     Rickenbacker Stereo bass. Marshall 200w, 4 x 15” cab.Marshall 100w 4 x 12” cab
Colin: Drymiau Hayman. Symbalau Zildjan a Paiste.
Euros: Piano Fender Rhodes, synth Mini Korg. H&H 100w combo.

 

  Maes o law fyddai Geraint yn newid i gitâr Fender Telecaster Custom, John yn newid  Gibson 335 a Clive yn newid i bas Musicman gyda’i Marshall 200w a’r cab 4 x 12”.Ar y pryd roedd y band yn defnyddio offerynnau ac offer proffesiynol o’r safon uchaf, yn enwedig wrth eu cymharu â’r bandiau eraill y cyfnod.

Tua £150 i £200 oedd y tal am gig ym 1978 yng Nghymru. Arian da am y cyfnod! Roedd bob ceiniog yn cael ei fuddsoddi yn y system sain (PA). Dyma’r manylion:

 

Desg  M&M 16-sianel i gymysgu.

Pâr o gyrn JBL.

Pâr o gabinetau JBL 2 x 15”.

Pâr o seinyddion JBL 2 x 15” mewn biniau bas Martin.

Chwyddleisydd stereo H&H 500watt.

Meicroffon Shure SM58 a SM 57, a meic Shure D12 ar gyfer y drwm bas.

copa

Prynwyd y biniau Martin anferth oddi wrth gwmni sain Saffari, ar ôl iddynt rhoi’r gorau i’r busnes. Prynnwyd pedwar seinydd-llawr ar gyfer y llwyfan. Yn y diwedd roedd pwer y PA yn sylweddol. Roedd 2000w yn mynd mas a 1000w yn dod yn ôl i’r llwyfan drwy’r seinyddion-llawr. Fu Colin yn brysur yn weldio ffrâm i ddal y cyfan, sef tri chwyddleisydd H&H. Roedd yr holl beth yn pwyso tynnell, ac fel Mur Mawr Tsieina, i'w weld o’r gofod! Dyma oedd y PA mwyaf pwerus a safonol yn y byd roc/pop Cymraeg ar y pryd. Roedd gan Eliffant dri pheiriannydd a oedd yn gweithio gydant yn rheolaidd yn cymysgu’r sain a chario’r offer, (Ynghyd ag aelodau’r band wrth gwrs!), Tudor Ellis, Jeremy Gleave ag Emyr Bowen. Mae Tudor nawr yn ddyn camera newyddion gyda HTV. Mae Jeremy yn beiriannydd gyda BT, ag Emyr yn beiriannydd sain gyda chwmni teledu Barcud yng Nghaernarfon.

Erbyn diwedd 1978 roedd Eliffant yn medru edrych yn ôl ar flwyddyn lwyddiannus iawn. Roeddent wedi ennill enw da fel band llwyfan safonol a gwefreiddiol a hoffai chwarae’n UCHEL! Roedden wedi dechrau creu dilyniant, ac wedi ennill parch y cerddorion eraill yn y sîn Cymraeg. Roedd yr aelodau yn ymfalchïo o fod yn “fois y wlad” o orllewin gwyllt Cymru, gyda’i bwriad o greu y gerddoriaeth gorau o fewn eu gallu, yn ddigyfaddawd. Roedd eu hymroddiad yn gant y cant heb os. Daeth blwyddyn dda i ben, a gwelwyd traddodiad Eliffantaidd pwysig yn cael ei sefydlu ar Ragfyr y 9ed, yng ngwesty’r Harbwrfeistr ar y cei yn Aberaeron, Ceredigion. Dyma’r Parti ‘Dolig Eliffant cyntaf, nid yr olaf, ond efallai y gorau. Roedd pethau i'w dathlu, a hefyd pethau i'w trafod. Roedd  hi’n amser paratoi gwneud record hir.

Ar ddechrau 1979, ar y 9ed o Ionawr aeth Eliffant i stiwdio y BBC Llandaf i recordio eitem ar gyfer rhaglen ‘Twndish’. Roedd Twndish yn rhaglen bwysig a llewyrchus. Darlledwyd y rhaglen ar y dydd Sul canlynol. Ar y rhaglen gyda Eliffant oedd Geraint Watkins a’r Dominators, a The Nicotinos. Mae’n rhaid fod y rhaglen yn ddwy ieithol, doedd Geraint Watkins ddim yn enwog am ei waith Cymraeg, dwy ddim yn sicr am The Nicotinos! Y cyflwynydd oedd Iestyn Garlick a’r cyfarwyddwr oedd Pete Edwards. Yn fuan ar ôl Twndish aeth Pete ymlaen I gyfarwyddo rhaglennu cynnar ‘Eastenders’. Y cynhyrchydd oedd yr enwog Ruth Price. Ar nos Sadwrn yr 20ed gwelwyd Eliffant mewn dawns yn Llangadog, yng nghysgod y Mynydd Du. Mae llawer yn ardal tre Caerfyrddin yn dal i gofio’r noson, trefnwyd bws i gludo criw o’r dre i’r ddawns. Yr adeg hynny roedd pawb yn cefnogi gigs Cymraeg, yn cynnwys pobl di-Gymraeg yr ardal. Noswaith dda yw noswaith dda, ta beth yw’r iaith,  os ody’r gerddoriaeth yn dda! Roedd noson fawr arall yn cael ei chynnal ar nos Sadwrn, Ionawr y 27ain. Y lleoliad oedd Tal Y Bont ger Aberystwyth, a'r achlysur oedd noson ffarwel HERGEST, y band acwstig-trydanol fu’n canu trwy Gymru ers 1971. Bu Geraint yn chwarae gitâr ar eu record hir Glanceri, ac roedd e’n bwriadu chwarae gitâr yn eu sioe olaf. Yn anffodus daeth storom o eira i chwalu ei gynlluniau, a methodd gyrraedd y gig. Fel’na mae ar hewlydd cefn gwlad yntefe!

Gaeafol oedd hewlydd gorllewin a gogledd Cymru ar nos Iau, Chwefror 15ed. Roedd yr eira’n drwchus dros y wlad ac yn dal i fwrw. Eliffant penderfynol iawn oedd yn araf  symud ar hyd arfordir gorllewinol y wlad. O Gaerfyrddin i Aberystwyth ar hyd y ffordd arferol, ond wedyn roedd rhaid dilyn y ffordd hir drwy Borth, Y Bermo a Harlech, tra’n ceisio osgoi y lluwchfeydd oedd erbyn hyn dros bedair troedfedd mewn rhai llefydd.  Roedd hi’n ganol nos erbyn i Eliffant lithro’i ffordd i mewn i bentref Llandwrog yn Sir Gaernarfon. Drannoeth roeddent i ddechrau recordio eu record hir cyntaf yn stiwdio Sain, Gwernafalau. Hen feudy wedi ei addasu. Ddigon da! Y cynllun oedd i recordio’r set llwyfan heb newid dim, fel fyddai’r record a’r perfformiadau byw driw i'w gilydd. Felli dim gor-gynhyrchu. I ddweud y gwir yr unig effeithiau a ddefnyddiwyd yn y stiwdio oedd “reverb”. Cynhyrchwyd y record gan hen ffrind Geraint, Hefin Elis a oedd yn gweithio i Sain, a’r band. Y peiriannydd oedd Bryn Jones. Roedd y caneuon i gyd wedi eu hysgrifenni’n barod heb law am Seren I Seren a’i hysgrifennwyd yn y stiwdio. Dyma restr y traciau:

copa

M.O.M.

Nol ar y Stryd.

Breuddwyd.

Lisa Lân.

Nôl I Gairo.

Seren I Seren.

Serena.

W Capten.

Ble ‘Rwyt Ti?

Teulu Mawr y Byd.

M.O.M.

 

Geraint oedd cyfansoddwr yr holl ganeuon heb law am Serena a ysgrifennwyd gan Geraint a’i ffrind a chyn aelod o Injaroc, Endaf Emlyn. Recordiwyd y record dros chwech diwrnod, Chwefror 16, 17, 18, a Mawrth 23, 24, a 25. Mae y teitl ‘M.O.M’, yn sefyll am ‘Mas O 'Ma’, dywediad cyffredin iawn yn Nyfed wrth gwrs. Teitl addas iawn am record sy’n cynwys cymaint o ganeuon am y gofod. Mae ochr un yn cynnwys caneuon roc, yn delio gyda phynciau amrywiol , ond caneuon dawns bob un. Mae ochr dau yn fath o “concept album”, y math o beth oedd yn ffasiynol ar y pryd. Caneuon am y gofod. Roedd diddordeb am y gofod ar gynnydd ym 1979, yn enwedig yng Ngorllewin Cymru. Cyhoeddwyd llyfrau fel ‘The Dyfed Enigma’ gan R.J.Pugh a F.W Holiday, yn sôn am bethau rhyfedd yn cael eu gweld yn yr ardal. Roedd hyd yn oed papurau fel ‘The Carmarthen Journal’ yn bwydo’r  cynnwrf. Roedd stori yn nhudalennau’r papur am fenyw lleol a welodd loeren neu long ofod o ryw fath yn glanio'n agos at bentref  Idole, ger tre Caerfyrddin. Roedd hyn yn ysbrydoliaeth i Geraint gyfansoddi’r gan ‘Capten Idole’ a recordiwyd ar record hir Halen Y Ddaear.  Can am deithiwr o blaned arall sydd ar farw, ac wrth chwilio’r gofod am fyd newydd i'w bobl, yn darganfod Y Ddaear, ac yn enwedig Cymru. Mae'n cysylltu ‘nol ac yn eu hannog i ymuno ag ef mewn “gwlad fach, tir iach, cartref rhwng mor a mynydd”.  Mae M.O.M. yn datblygu’r stori ymhellach, ac yn cynnig ychydig o gefndir i’r hen Gapten. Cynllunydd y clawr oedd Wyn ap Iestyn o gwmni O’r Niwl. Mae’n dangos astronot yn nofio yn y gofod. Addas iawn.  Fe gafodd y record dderbyniad da. Dywedodd Caryl Parry Jones yn Y Faner  fod y record “yn gampwaith”! Roedd Denver Morgan yn y cylchgrawn Sgrech yn annog pobl fel hyn: “Dawnsiwch i ochr un, gwrandewch ar ochr dau”. Mae Denver yn disgrifio’r record fel “Roc gafaelgar cynhyrfus wedi ei chwarae’n dyn ac yn broffesiynol”.   Ysgrifennodd Hefin Wyn yn Y Cymro: “Chwarae diwastraff sicr a thriw a llais hyfder”.

Dros y misoedd nesaf bu’r band yn hyrwyddio’r record newydd ar lwyfan. Pontyberem ar nos Wener,Chwefror 23ydd. Bangor ar nos Wener, Mawrth 9ed a Llangadog ar y noson ganlynol. Ar nos Sadwrn y 1af o Fehefin roedd y band yn rhanni llwyfan gyda Geraint Jarman a’r Cynghaneddwyr, ym Maesteg. Dawns oedd yn rhan o ddigwyddiadau ymylol yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd. Anaml iawn fu’r ddau fand yn rhanni llwyfan. Mae’n debyg fod Jarman ag Eliffant yn cystadlu am yr un gynulleidfa, a doedd y gynulleidfa honno ddim yn medru ymdopi a’r syniad o gefnogi mwy nag un band. Eliffant neu Jarman, Jarman neu Eliffant, ond nid y ddau! Dyna fel oedd hi yn ’79. Ar nos Iau, Mehefin y 21ain roedd y band yn Y Neuadd Fawr, Prif Ysgol Aberystwyth. Dyma oedd uchafbwynt gyrfa’r band mor belled. Gig a hanner! Roedd Nic Parry yno ar ran Sgrech. Dyma ysgrifennodd:

“Roedd y llawr yn orlawn pan ffrwydrodd y grp i gyflwyniadau cynhyrfus o ‘Nol Ar Y Stryd, Lisa Lan a’Nol I Gairo…swyn nodau hudolus Ble Rwy Ti, W Capten (grêt!) a Teulu Mawr Y Byd. Mae’r ddwy olaf yn prysur dyfu’n anthemau a’r gynulleidfa yn morio canu’r cytganau…Mae Eliffant bellach wedi profi eu hunain ar blastig ac yn Aberystwyth profasant eu hunain ar lwyfan.”

Dyma restr o’r gigs nesaf:

Nos Gwener Mehefin 9ed, Felin Fach.

Nos Fawrth Awst 7ed, Y Majestic, Caernarfon.

Dydd Iau Awst 9ed, Maes yr Eisteddfod.

Roedd y ddau gig olaf yn ystod yr Eisteddfod Genedleithol yng Nghaernarfon. Bu chwe gig arall ym 1979:

Nos Sadwrn Awst 25ain, Pontyberem.   

Nos Wener Medi 21ain, Llangefni.

Nos Wener Hydref 5ed, Tan Y Bont, Caernarfon.

Nos Fercher Hydref 24ain, Blaendyffryn, Llandysul.

Nos Wener Tachwedd 9ed, Y Neuadd Fawr, Aberystwyth.

Nos Fercher Tachwedd 14, Coleg y Drindod, Caerfyrddin.

 

Roedd y bois yn dal i ddod at eu gilydd yn wythnosol i ymarfer, bob nos Fercher yng Nghrymych, ar ôl cyfarfod yn y Crymych Arms. Cafodd sengl ei chyhoeddi tua’r amser yma gan MACYM (Mudiad Adloniant Cymraeg Ynys Môn). Defnyddiwyd y recordiad o Seren I Seren a Lisa Lan o M.O.M.  Fu’r sengl yma boblogaidd iawn ar “jukeboxes” caffis a thafarnau led led Cymru, ac yn rhannol gyfrifol am dwf poblogrwydd y band hefyd. Daeth tystiolaeth o’r poblogrwydd  hyn  pan gaeth Eliffant ei benodi fel Prif Grwp Roc ’79 gan ddarllenwyr Sgrech.

copa

 

Dechreuodd 1980 yn llewyrchus iawn i’r band. Ar nos Sadwrn Ionawr 19, gwelwyd hwy yng Nghaernarfon i dderbyn tlws Sgrech. Dyma’r canlyniadau yn gyflawn:

 

Prif Grwp Roc:        Eliffant.

Prif Grwp Gwerin:                       Plethyn.   

Prif Ganwr Unigol:                      Tecwyn Ifan.

Prif Gantores:                               Rhiannon Tomos.

Grwp Addawol y Flwyddyn:      Chwarter I Un.

Offerynnwr Gorau:                        Tich Gwilym. 

Gwobr arbennig Sgrech:              Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr.

 

 

Dyma a ysgrifennwyd yn Sgrech ar y pryd:

“Does dim sydd heb ei ddweud am Eliffant erbyn hyn. Enillwyr llwyr haeddiannol prif dlws Noson Wobrwyo Sgrech ac efallai ein grp mwyaf cerddorol.”

 

Ar ôl y noson fawr yma, parhaodd y flwyddyn gyda gigs a gwaith teledu:

Dydd Mercher Ionawr 13, Stiwdio 123, Stryd Bute, Caerdydd.

Dydd Mawrth Ionawr 29ain, HTV, Pontcana, Caerdydd.

Nos Sadwrn Mawrth 1af, Clwb Pwerdy Niwclear, Trawsfynydd.

Nos Wener Mawrth 7ed, Blaendyffryn, Llandysul.

Nos Sadwrn Ebrill 5ed, Tan Y Bont, Caernarfon.

Nos Wener Ebrill 25ain,Plas Coch, Sir Fôn.

Dydd Mawrth Ebrill 29ain, HTV, Pontcana, Caerdydd.

Nos Wener Mai 9ed, Neuadd Llandysul.

 Yn ystod gwanwyn ’80 fu’r band yn trafod recordio record hir arall. Roedd M.O.M wedi cael derbyniad da, ac yn nhermau y cyfnod, wedi gwerthu’n dda. Yn ddigon da i Sain ystyried gwneud un arall. Erbyn hyn roedd Sain wedi symud o hen feudy Gwernafalau i leoliad newydd rhyw filltir neu ddau lawr yr hewl. Adeilad newydd sbon wedi cynllunio a’i adeiladu at y pwrpas o recordio, yn cynnwys stiwdio fawr, swyddfeydd, gweithdai, stordai, cegin a ystafelloedd i ymlacio. Hwn oedd pencadlys Cwmni Recordiau Sain Cyf. Roedd y caneuon eisoes wedi eu hysgrifennu, a’r cynllun oedd i recordio’r albwm newydd yn yr haf. Hefin Elis ac Eliffant fyddai’n cynhyrchu, ond roedd y band am ddefnyddio peiriannydd o’r tu allan i’r sîn Cymraeg, er mwyn dod â phersbectif ffres a gwahanol i’r broses. Roedd profiad gan Phil Ault o weithio gyda bandiau proffesiynol yn Lerpwl, ac fe gytunodd i wneud y gwaith. Felly ar nos Iau Mehefin 19eg, aeth Eliffant a’u criw cynyddol i aros yng ngwesty Tan Dinas ger traeth Dinas Dinlle. Gyda nhw oedd eu criw llwyfan sef Tudor Ellis, Jeremy Gleave a Bernard ‘Bun’ Davies. Dros y pedwar diwrnod nesaf, Mehefin 20, 21, 22 a 23ain, recordiwyd y traciau sylfaenol ar gyfer Gwin Y Gwan. Roedd Phil Ault ag Eliffant yn cydweithio’n dda gyda’u gilydd, ac erbyn y penwythnos trodd Eliffant am y De gyda chopïau casét o’r traciau amrwd offerynnol i ystyried ychwanegu y prif offerynnau a’r lleisiau.

 

copa

 

Roedd y band yn brysur o hyd:

Nos Wener Mehefin 27ain, Tal Y Bont, Aberystwyth.

Nos Sadwrn Gorffenah 26ain, Corwen.

 

Hefyd, roedd y bois yn hapus i logi y system sain (PA) i fandiau eraill, er enghraifft Edward H. Weithiau, tra’n llogi’r PA, byddai Eliffant yn perfformio i agor y sioe, dim ond er mwyn yr hwyl o chwarae! Ar ddydd Iau Gorffennaf 31ain roedd hi’n amser mynd ‘nol i’r stiwdio i orffen yr albwm. Gwnaethpwyd hyn dros benwythnos y 1af, 2 a’r 3ydd o Awst. Fel hoe fach, fe berfformiodd y band yng nghlwb Tan Y Bont, Caernarfon ar y nos Sadwrn, ac i ddangos i Phil Ault eu bod yn medru chwarae’n fyw hefyd. Y gynhaliaeth bwysicaf dros gyfnod y recordio oedd hoff ddiod y bois sef Guinness. Mae’r lluniau a dynnwyd o’r cyfnod gan aml yn cynnwys tun agored o’r hylif du rhywle yn y ffrâm. Mae’n deg i ddweud fod y band yn ffans o “Wncwl Arthur”, pawb ond am Colin a oedd yn Formon brwdfrydig ar y pryd. Felli gan fod trac o’r enw Gwin Y Gwan ar y record hir, a am ei fod yn recordiad arbennig o gryf, penderfynwyd defnyddio’r gan fel teitl i’r albwm. Cysylltodd Sain gyda phencadlys Guinness yn Nulyn i ofyn am ganiatâd i ddefnyddio cynllun y label fach grwn oddi ar ei poteli cwrw ar glawr y record. Wedi’r cyfan Gwin Y Gwan oedd yr enw Cymraeg am Guinness. Roedd y cwmni wedi cynhyrchu hysbysebion yn yr iaith Gymraeg ers blynyddoedd maith. Felly siomedig iawn oedd y band i glywed mae ateb Guinness i’r cais oedd Na! Er hynny, penderfynwyd comisiynu yr artist grapheg Charli Britton i gynllunio clawr byddai’n adlewyrchu y pecyn-chwech adnabyddus. Heb sathru ar unrhyw hawlfraint, llwyddodd Charli a’r band greu clawr trawiadol sydd yn glasur hyd heddiw. Barn bersonol yw hyn wrth gwrs! 

Roedd yr albwm yn y siopau erbyn wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol. Eto roedd thema i’r caneuon, wel, tair ohonynt. Roedd y tair can olaf ar ochr un yn son am y bedwaredd ganrif ar bymtheg! 

Dyma’r traciau:

 

GWIN Y GWAN

Gwin y Gwan.

Gole Gwyn.

Merthyr.

Can y Mynydd Du.

Ffair Caerdydd.

Y Falen Fawr.

Llosgi'r Pontydd.

Ffwl Ebrill.

Waun Uchaf.

Mâs O’r Coed

Gwin Y Gwan

copa

Cafodd yr albwm dderbyniad cymysg. Roedd peth beirniadaeth o’r record am swnio’n or-Eliffantaidd!  Athroniaeth y band oedd i greu eu swn llwyfan ar record, a hefyd i medru ail-gynhyrchu'r record ar lwyfan. Felly roedd osgoi gor-gynhyrchu yn y stiwdio yn holl bwysig i’r bois. Mae pob beirniadaeth wedi ei seilio ar agwedd bersonol beth bynnag, ac yn aml roedd y beirniadaethau yn gwrth-ddweud 'u gilydd. Roedd ‘na ganmoliaeth wrth gwrs. Dyma enghreifftiau o’r math o beth a ysgrifennwyd: 

Gwin y Gwan:     “Fe fyddai’r trac yma’n gwneud sengl bendigedig, un a ddylai fod  ar sgrech flwch (jukebox) pob tafarn.” (Carmarthen Times)

“Can drawiadol yn null ‘Nol ar y Stryd , yw hon gyda chytgan arbennig o gofiadwy.” (Sgrech)

 Ffair Caerdydd:   “Llwyddiannus dros ben…mae’r geiriau ar ffurf hen benillion ac yn ddiniwed o brydferth.” (YCymro)

 Llosgi’r Pontydd: “Y naws mytholegol ac angerddol yn y gan yma, sy’ wedi gadael yr argraff mwyaf arnaf.” (Sgrech)

 Ffwl Ebrill: “Gweithio’n hynod o lwyddiannus.O’r cyflwyniad tawel nodedig, i’r diweddglo cynhyrfus.” (Y Faner)

copa

Eliffant

Eliffant gyda Phil Ault ar y chwith tra'n recordio GWIN Y GWAN.

 

 

Wrth wrando ar y record nawr (2000), pwer swn y band sy’n fy nharo. Doedd bron dim effeithiau wedi eu defnyddio wrth recordio, ac fel M.O.M., dim ond ychydig o adlais,“reverb” a pheiriant corws Eventide ar y lleisiau. Mae’r sain yn cynnwys y gic yna sy’n nodweddiadol o’r saithdegau, offerynnau go iawn a chwyddseinyddion  falf wedi eu troi lan i unarddeg! Ond rwy' hefyd yn meddwl fod yr ysgrifen ar y mur erbyn hyn. Roedd y band yn dibynnu ar Geraint am y caneuon, ac roedd hyn yn gyfyngol i raddau. Band roc oedd Eliffant yn y bon, ond roedd gwreiddiau Geraint yn eclectig. Ei brif ddiddordebau cerddorol ar y pryd oedd gwerin, roc-gwlad, pop a ffync! Roedd ei ganeuon yn tueddu i fod yr un mor amrywiol. O rhan testun os nad triniaeth. Roedd y mwyafrif o’r feirniadaeth yn sôn am ddiffyg amriwiaeth, sydd yn eironig.

Yn ôl y traddodiad Celtaidd, fe gafodd Eliffant ei fis mêl a’i oes aur, ond daw diwedd ar bopeth, ac roedd diwedd Eliffant wedi dechrau. Araf fu y broses, ac roedd gigs yw perfformio.  

Nos Lun Awst 4ydd, Twrw Tanllyd, Eisteddfod Genedlaethol Abertawe.

Nos Fawrth Awst 5ed, Y Glen, Llanelli.

Nos Sadwrn Medi 20, Tan Y Bont, Caernarfon.

Nos Wener Tachwedd 7ed, Dixieland, Rhyl.

Nos Sadwrn Tachwedd 8ed, Tan Y Bont, Caernarfon.

Nos Sadwrn Tachwedd 22ain, Corwen.

Nos Wener Tachwedd 28, Plas Coch, Sir Fôn.

 

Cynhaliwyd Parti Nadolig Eliffant ar nos Sadwrn Rhagfyr 20ed. Dyma’r un olaf i aelodau gwreiddiol y band.

Aeth trefni ymarferion yn fwy anodd, doedd pob aelod ddim yn medru cynnig ymroddiad llwyr o achos eu diddordebau amrywiol. Yn enwedig Colin. Roedd cyfrifoldebau teuluol a galwadau ei waith beunyddiol yn achosi problemau iddo i drefni amser rhydd gyda’r hwyr yn ystod yr wythnos. Roedd Colin a Clive yn teithio gyda’u gilydd i’r ymarferion, ond er hynny, aeth yn fwy anodd i gael Colin i Grymych ar nosweithiau Mercher.  Roedd gan Colin seler anferth o dan y ty yn Broad Haven, Sir Benfro. Cytunwyd i gynnal yr ymarferion yno. Trefnwyd yr ymarferion yma ar y penwythnosau fel na byddent yn ymyrrid ar alwadau Colin yn ystod yr wythnos.  

 

Perfformiodd y band mewn wyth gig ym 1981: 

Nos Wener Chwefror 20ed, Top Rank, Caerdydd.

Nos Sadwrn Chwefror 28ain, Coleg y Drindod, Caerfyrddin.

Nos Wener Mawrth 20ed,Y Pier, Aberystwyth.

Nos Wener Ebrill 10ed, Plas Coch, Sir Fôn.

Nos Lun Ebrill 20ed, Blaendyffryn, Llandysul.

Nos Sadwrn Mehefin 13, Tan Y Bont, Caernarfon.

Nos Wener Gorffennaf 3ydd, Plas Coch, Sir Fôn.

Nos Iau Awst 6ed, Twrw Tanllyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

 Ar ddydd Llun Awst 17eg, perfformiodd y band set gyfan o flaen y camerâu yn stiwdio HTV yn Pontcanna, Caerdydd ar gyfer rhaglen oedd yn rhan o gyfres Roc Sêr. Y cyfarwyddwr oedd Endaf Emlyn, ac fu'n llwyddiant mawr. Darlledwyd y rhaglen ddwy waith dros y flwyddyn ganlynol, yn dystiolaeth barhaol fod Eliffant ar ei orau ar lwyfan yn chwarae’n fyw.

Doedd dim llawer ym 1981 i'r band i'w ddathlu. Roedd Eliffant yn dechrau colli stêm, roedd ambell aelod yn colli brwdfrydedd, ac roedd y gigs yn dechrau troi’n faich. Roedd yr hewl i’r Gogledd, lle’r oedd y mwyafrif o’r gigs ar y pryd, yn teimlo fel ei fod yn mynd yn hirach ac yn hirach. Doedd y band ddim yn ymarfer mor aml, a llawer o’r ymarferion yn cael eu gohirio. Pan llwyddodd Colin i gyrraedd yn hwyr am ymarfer yng nghartref ei hun, roedd hi’n amlwg fod y diwedd wedi dod. Daeth Eliffant i ben yn dawel. Yn ddiffys, heb ddadl na chwympo mas. Penderfynwyd gadael y creadur i farw yn dawel yn ei gwsg. Roedd y bechgyn yn dal i fod yn ffrindiau, roedd hyn mor bwysig ag unrhyw beth iddynt. Grwp cymdeithasol oedd Eliffant yn y bon, ac fe wahanodd y bois tra’n dal yn ffrindiau. Doedd dim Parti Nadolig y flwyddyn honno, ond cyn hir fe fyddai un yn cael ei drefni, ac fe feddau Eliffant arall yw glywed yn swnian yn nyfnder Sir Aberteifi.

copa

Rhan 2

| english |