Geraint Griffiths

1982

Fe gadwodd Geraint, John, Clive ac Euros mewn cysylltiad ar ôl chwalu Eliffant. Roedd hi’n amlwg fod y diddordeb yn y gerddoriaeth yno o hyd. Yn wir, dros y misoedd, tyfodd yr awydd i atgyfodi’r band. Roedd y bechgyn yn gweld eisiau y joio, y perfformio a bod yn swnllyd! Doedd Colin ddim yn rhan o’r cynllun, yn wir, roedd hi’n amlwg i bawb ei fod yn gweld diwedd y band fel rhyddhad o ddyletswydd a aeth yn faich. Felly, roedd y pedwar aelod arall yn derbyn os oedd dyfodol i Eliffant, fyddai angen drwmwr newydd. Yn ystod tymor yr Hydref 1981, bu sawl drwmwr yn derbyn gwrandawiad, ond   roedd un yn sefyll ben ac ysgwyddau dros y gweddill. Roedd Gordon Jones, o ardal Llanbed, wedi dod ‘nol ar wyliau o Lundain, lle’r oedd yn gweithio ar y pryd. Roedd Gordon yn adnabod Euros, a phan glywodd am y gwrandawiadau, fe gysylltodd ag ef. Roedd steil Gordon yn dra gwahanol i steil Colin. Drwmwr roc oedd Colin, a oedd yn taro’r crwyn yn gadarn. Roedd gan Gordon steil mwy ysgafn a oedd yn fwy addas i’r math o gyfeiriad roedd caneuon newydd Geraint yn arwain. Fe gytunodd Gordon i ymuno â’r grwp, a symudodd yn ôl o Lundain o fewn wythnosau.

Dechreuodd y band ymarfer yn Felin Fach, a dros yr wythnosau roedd hi’n amlwg fod swn y band yn newid. Roedd cyfraniad Gordon yn rhannol gyfrifol am hyn, ond hefyd roedd y cyfansawdd offerynnol wedi newid. Newidiodd Clive ei fas Rickenbacker am fas Musicman. Roedd John yn defnyddio Gibson 335 yn lle’s Fender Stratocaster. Roedd Euros yn defnyddio dau synth Korg yn ogystal â’r Fender Rhodes. Ac roedd Geraint wedi newid y Gibson SG am Fender Telecaster Custom. Hefyd, roedd Geraint yn defnyddio piano trydan Wurlitzer ar ambell gan. Roedd pethau’n mynd yn dda, ac i ddathlu, trefnwyd Parti Nadolig Eliffant (ychydig yn hwyr) ar Ionawr 30ain. Chwalwyd traddodiad trwy ei gynnal yn Hwlffordd, Sir Benfro.

Er nad oedd yr Eliffant newydd wedi perfformio’n fyw eto, cymaint oedd eu henw da, fe gynigodd y BBC gyfle iddynt recordio pedair cân ar gyfer rhaglen radio Sosban a ddarlledwyd bob bore Sadwrn. Recordiwyd y set yn stiwdio Dafydd Pierce, Stiwdio 1-2-3, Stryd Bute, Caerdydd. Dyma’r caneuon:

 

Sosban

Gwylio Arna’ i.

Protea.

Diwedd Y Gaeaf.

Esger.

copa

 

Sesiwn Sosban

Rhyddhawyd record hir gan y BBC gyda’r teitl Sesiwn Sosban (SAIN 1269H) yn cynnwys Gwylio Arna’ i . Yr artistiaid eraill oedd Urien, Angylion Stanli, Maffia Mr. Huws, Derec Brown A’r Racaracwyr, Y Newyddion, Anghenfil, Siân Wheway, Rocyn a Canna. Roedd y bois yn hapus gyda recordiadau Stiwdio 1-2-3 ac yn bwriadu eu defnyddio wrth drafod cytundeb newydd am drydydd albwm ar label Sain. Ond yn gyntaf roedd rhaid dechrau perfformio’n fyw eto.

Bu’r band yn ymarfer dros y gaeaf ar ddiwedd 1981 yn ardal Crymych, ond erbyn Gwanwyn ’82 Felin Fach oedd y ganolfan iddynt, gan amlaf yn y Theatr yno ar ddydd Sul. Dal yn bwysig oedd yr ochr gymdeithasol, ac os oedd Eliffant i bara roedd e’n gorfod bod yn hwyl. Roedd neuadd y pentref, Llanpumsaint yn ganolfan ymarfer hefyd, a’r mwyaf canolog. Perfformiad cyntaf Eliffant ar ei newydd wedd oedd ar nos Lun, Ebrill 12, ym Mlaendyffryn, ger Llandysul. Maen anodd credi wrth ysgrifenni hwn yn y flwyddyn 2000, ei bod hi’n bosib trefni ddawnsfeydd llwyddiannus mor gynnar yn y flwyddyn, yng nghanol Sir Gâr, gyda grwp Cymraeg, ar nos Lun!  Ond yn y dyddiau hynny roedd hi’n bosib trefnu gigs Cymraeg ar unrhyw noswaith o’r wythnos, a byddai torf yn dod, yn sicr o joio a chael noson dda.  Roedd yr ail gig hefyd ar nos Lun, yn Ysgol Rhydfelen, Pontypridd. Dyma restr o’r gigs am 1982: 

Nos Iau Awst 5ed, Y Ganolfan Hamdden, Abertawe.

Dydd Sadwrn Medi 18eg, Blaendyffryn. Dros ddeuddeg awr o gerddoriaeth roc a recordiwyd gan y BBC ar gyfer Radio Cymru.

Dydd Gwener Medi 24ain, ar gyfer rhaglen i HTV, Caerdydd.

Dydd Mawrth Hydref 5ed, ar gyfer rhaglen  i’r BBC, Caerdydd.  

Dydd Llun Hydref 11, ar gyfer rhaglen i HTV, Caerdydd.

Dydd Iau Hydref 21ain, ar gyfer rhaglen i HTV, Caerdydd.

Nos Fercher Hydref127ain, gig yn Aberystwyth.  

Nos Fercher Rhagfyr 22ain, Y Star Motel, Geirwn, Sir Fôn.

1983

Gwelodd 1983 Eliffant mewn tiroedd newydd. Roedd HTV am wneud fideo gyda’r band. Nid fideo o’r bois yn perfformio, fel arfer, ond dehongliad dramatig o un o’r caneuon, sef Gwin Y Gwan. Fu gofyn i Geraint, John a Gordon chwarae rhan tri cardotyn yn crafu bywoliaeth yn nociau Caerdydd. Roedd John a Gordon yn llawn brwdfrydedd, yn taflu eu hunain i’r gwaith, John yn llythrennol! Chwarae rhan tri alcoholig yn eistedd o amgylch tan agored ar faes adeiladu oeddent. Mae’r fideo yn dangos John yn syrthio i’r tân. Roedd gofyn iddo wneud hyn sawl gwaith, felly yw natur ffilmio. Roedd John yn ymddangos yn or-awyddus i daflu ei hunan i’r fflamiau, ond fe bwyllodd ar ôl derbyn cyngor y criw o’i amgylch fod pethau’n mynd yn beryglus. Yn y fideo terfynol gwelir John yn dal cyllell yn fygythiol, yn ogystal â busnes y tân wrth gwrs, gwelir Gordon yn edrych yn hynod o drist a diniwed, a gwna Geraint ei orau i edrych yn feddylgar a diddorol! Llawer o hwyl, ond ni wnaeth delwedd y band elwa rwy’n ofni! Doethineb rwy’n tybed achosodd Euros a Clive i wrthod y cyfle a’r camerâu. Diolch byth, dyma’r unig dro i’r band fentro ar hyn o beth!

Ar nos Sadwrn Chwefror 26ain, perfformiodd y band yng nghlwb Tan Y Bont, Caernarfon am y tro olaf. Fel cymaint o leoliadau a oedd yn cynal gigs Cymraeg ar y pryd, mae wedi cau. Sy’n wir am Blaendyffryn, Plas Coch, Star Motel, sawl neuadd goffa, neuadd pentref a thref. Ar Ebrill 18ed roeddent nôl yn stiwdio HTV, Caerdydd i recordio tair can newydd, Emyn Y Tad, Can Y Crwydryn a Gole Gwyn. Dim ond Gole Gwyn sydd ar record (Gwin I Gwan). Nos Sadwrn Ebrill 30ain roedd gig yn Llanbed, nos Sadwrn Mai 21ain un yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin; nos Sadwrn Mehefin 4edd, gig yng Nghaerdydd.

Doedd y trafodaethau gyda Sain am drydydd albwm ddim yn mynd yn dda. Roedd y band yn awyddus i fynd i’r stiwdio eto, ond roedd Sain yn llau awyddus i hyn i ddigwydd. Roedd Hefin Elis, a fu’n gynhyrchydd ar y cyd ar Gwin Y Gwan, arbennig o rwystredig. Roedd Hefin hefyd yn gyfarwyddwr yn y cwmni, ac roedd yn bendant na fyddai Sain yn barod i fuddsoddi rhagor o amser stiwdio yn y band tan fod eu gwerthiant recordiau yn gwella, trwy gynyddu wrth gwrs. Dyma’r adeg pan fyddai band Cymraeg yn hapus iawn gyda gwerthiant o 2000 o recordiau, ac yn wir, byddai 1000 o werthiant yn barchus. Roedd hi braidd yn optimistaidd i ddisgwyl gwerthiant gwell na’r arferol oddi wrth Eliffant, ac mewn gwirionedd roedd y band yn dioddef y dirwasgiad mewn gwerthiant recordiau fyddai’n effeithio’r byd yn gyfan cyn hir. Dyma’r adeg pan gwelwyd poblogrwydd CDs ar gynydd, a’r gwrthwyneb yn digwydd i boblogrwydd recordiau finyl.

Fe aeth y ddadl rhwng Sain ag Eliffant braidd yn chwerw, yn wir, mi aeth ar stop. Felli, yr unig ateb i’r band oedd mynd ati i sefydlu label recordio eu hunan. Doedd y bechgyn ddim yn gytun yngyln a'r ddewis o ddeunydd ar gyfer y record newydd. Geraint oedd yn dal i fod yr unig gyfansoddwr, a doedd pawb ddim yn hollol gyfforddus a chyfeiriad  newydd y caneuon diweddaraf. Caneuon oedd yn llai o roc nag arfer, a mwy o faledi. Caneuon hefyd oedd yn galw am safon offerynnol uwch nag o’r blaen. Er hynny, penderfynodd y band fynd ati i recordio yn stiwdio Richard Morris, Stiwdio’r Bwthyn yng Nghwm Twrch ger Dyffryn Tawe. Roedd Richard yn adnabyddus iawn ar y pryd fel gitarydd a fu’n gweithio gyda’r band Ail Symudiad.

Y bwriad oedd i recordio sengl yn gyntaf, ac os fyddai honno’n gwerthu’n dda, mynd ati i wneud albwm wedyn. Ochr ‘A’ fyddai can newydd, Ti Yw’r Unig Un I Mi, cân roc anghymhleth, gyda gwaith Euros ar yr organ “Hammond” yn allweddol. Roedd ochr ‘B’ i fod yn fersiwn newydd o gân acwstig ysgrifennwyd gan Geraint rhai blynyddoedd cynt, sef Tywyllwch. Cân roc oedd hon yn defnyddio arddull func yn y rhagarweiniad a rhwng y penillion. Y ddwy gân yn ganeuon pop yn y bon. Recordiwyd y traciau sylfaenol dros benwythnos Mehefin 11eg a’r 12eg, recordiwyd y lleisiau a’r gitâr blaen ar Fehefin 19eg. Cymysgwyd y ddwy gân gan Geraint a Gordon ar ddydd Iau Mehefin 23ain. Douglas Williams, ffrind i Gordon cynlluniodd y clawr. Defnyddiwyd du a gwyn i arbed costau. Enw’r label recordio newydd oedd LLEF, acronym am Llais Ei Feistr.

Mae’r logo yn dangos eliffant a’i glust mewn trymped gramoffon hen fasiwn, parodi ar logo  adnabyddus HMV sy’n defnyddio ci bach yn lle eliffant wrth gwrs. Daeth y syniad i’r bois yn nyfnderau myglyd tafarn y Fishers yng Ngellan ger Llanbed. Lluniwyd y logo yn hyfryd gan Doug eto.

Llef

Argraffwyd y cloriau yn lleol yn ardal Llanbed, ac Euros a Gordon fu’n gyfrifol am eu plygu a’u gludo. Llafur cariad mae’n sïwr! Cynhyrchwyd 500 record ar syniad oedd yw gwerthu yn y gigs am £1.30. Cytunodd Haydn Talgrwn i wneud y gwerthu. Roedd Haydn yn fath o aide-de-camp i Eliffant ar y pryd. Cynigwyd gwerthu’s sengl drwy’r post hefyd, mwy na thebyg y tro cyntaf i record Gymraeg. Cafodd y sengl groeso gan y wasg ar y cyfan, heb law am Sgrech. Roedd “newyddiaduron” y cylchgrawn wedi penderfynu fod amser Eliffant wedi dod. Rwy’n sicr fod bois Sgrech  wedi synnu gweld Eliffant yn ennill y gystadleuaeth gyntaf am dlws Y Prif Grp Roc ’79, i ddweud y gwir, rwy’n sicr eu bod wedi ei siomi a’i diflasu. Am resymau eu hunan wrth gwrs!  Beirniadaeth lem cafodd y sengl ganddynt. Cymharwyd ochr ‘A’ gyda “ cynnyrch yr ofnadwy Lieutenant Pigeon a’i gân Mouldy Old Dough.” a “Derec Brown a’i gerddoriaeth racarac.” Roedd y gymhariaeth olaf yn plesio am fod Derec yn boblogaidd iawn ar y pryd, ond ddim ymysg bois Sgrech wrth gwrs. Roedd Derec ag Eliffant yn dod o lefydd oedd llawer rhy ddeheuol i hogia Sgrech. Roedd y cyllyll wedi eu hogi ers tro, ar lechu glas Bethesda. Fu’r sengl yma fel yr un blaenorol, yn boblogaidd ar jiwcbocsis tafarnau a chaffis y wlad. Ac mae’r record ar restr casglwyr erbyn heddiw.

 Dros fisoedd olaf ’83 gwelwyd Eliffant yn  chwarae’r gigs yma:

 Gorffennaf 22ain, Pontypridd.

Awst 2ail, Yr Eisteddfod ym Mangor.

Medi 3ydd, Pontrhydyfendigaid.

Hydref 8ed, Bangor.

Ar Fedi’r 16eg aeth y band i stiwdio HTV yng Nghaerdydd i recordio Seren I Seren, a Diwedd y Gaeaf, a’r ddau drac o’r sengl newydd. Ac ar ddydd Sul Rhagfyr 4ydd aethant i stiwdio’r BBC yng Nghaerdydd I recordio Dilyn Fi a Ffair Caerdydd.

     copa  

        1984

 Dechreuodd 1984 yn y ffordd arferol a chyfarwydd, gyda’r band yn ymarfer bob wythnos yn Felin Fach. Y flwyddyn hon oedd eu  seithfed gyda’u gilydd, oleua’r aelodau gwreiddiol. Ac yn ôl eu natur smala a lletchwith, penderfynwyd dathlu pen-blwydd chwech a hanner! Trefnwyd cyngerdd yn Theatr Felin Fach. Cafwyd hysbysebu effeithiol, roedd y band wedi ymarfer yn drwyadl, ac fe wisgodd y bois yn arbennig i’r achlysur, ‘dinner jackets’ a ‘jeans’. Roedd y theatr 200 sedd dan ei sang. Noson dda, ac mae fideo (personol) o’r noson  fel tystiolaeth i’r digwyddiad. Nid hon oedd y gig olaf, ond fe ddylai wedi bod. Ar nos Wener Chwefror 3ydd perfformiodd y band am y tro olaf ar lwyfan yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd. Y swper olaf oedd Parti Nadolig Eliffant ar nos Sadwrn Chwefror y 18ed. Roedd ond dau ddyletswydd arall i'w cyflawni. Recordiad gan HTV yn Theatr Felin Fach o Nol Ar Y Stryd, Dilyn Fi, Emyn Y Tad a Protea. Eurof Williams oedd yn cyfarwyddo ar gyfer y gyfres SER. Y perfformiad olaf oll oedd recordio Capten Idole gan y BBC ar gyfer rhaglen bobl ifanc Bilidowcar.

Nid yw y manylion am y chwalu yn bwysig bellach, ond roedd y diwedd wedi dod. Fe wahanodd y bechgyn yn dawel a diffys. Roedd Eliffant drosodd, wel, bron a bod.

 


      copa  

       Ôl-nodyn

Yn y blynyddoedd wedi i Eliffant orffen, llwybrau gwahanol iawn fu’r bechgyn yn eu dilyn. Fu Euros yn gweithio yn Theatr Felin Fach fel darlithydd, ac yn ddiweddarach, fel rheolwr. Datblygodd y pantomeim blynyddol i fod yn sefydliad enwog trwy Gymru gyfan, fu’n chwarae rhan allweddol yn datblygu Radio Ceredigion, ac fe fu’n allweddol yn hyrwyddo datblygiad celfyddydol y gymuned gyfan yn Nyffryn Aeron a’r cylch. Mae nawr yn gynhyrchydd teledul. Dilynodd Clive ei yrfa yng Ngwasanaeth Llyfrgell Sir Benfro tra’n perfformio’n gyson gyda band o ardal Hwlffordd oedd yn canu caneuon gwlad yn bennaf. Dilynodd Gordon ei yrfa yn y busnes adeiladu tra’n drymio i sawl band yn ardal Llanbed. Canu caneuon blasus oddi ar recordiau llau cyfarwydd, a blws gwreiddiol a chlasurol. Gadawodd John y banc i rhedeg stiwdio recordio yng Nghaerdydd fu’n gwneud gwaith i’r teledu yn bennaf. Fe aeth Geraint yn llawn amser i fyd adloniant a theledu ym 1985. O amryw ffrindiau Eliffant, mae un, Haydn Talgrwn bellach yn beilot hofrennydd, fu'n gweithio am gyfnod i’r Gwasanaeth Achub Gwyddelig, ac yn hedfan allan o Ddulyn. Ym 1994, roedd ei ben-blwydd 40 yn agosáu. Gofynnodd i Gordon a oedd gobaith cael Eliffant nôl at eu gilydd ar gyfer yr achlysur. Fel mae’n digwydd, roedd pawb yn awyddus i wneud, deng mlynedd ar ôl gwahanu. Fe ddaeth y bechgyn at eu gilydd i baratoi a thrafod y caneuon. Cynhaliwyd yr ymarferion yn Felin Fach, ond nid John Davies. Daeth ffrind i Gordon, Terry Dixon i’r adwy ar y gitâr flaen. Ar nos Wener, Awst 26ain daeth Eliffant at eu gilydd yn y Gogina Arms, Llanarth, ger Cei Newydd, Sir Aberteifi. Perfformiodd y band set fyr o naw can ac un encôr. Dyma’r rhestr caneuon:

1.      Gwin Y Gwan.

2.      Llosgi’r Pontydd.

3.      Merthyr.

4.      Magi.

5.      W Capten.

6.      Ffair Caerdydd.

7.      Nol I Gairo.

8.      Can Y Mynydd Du.

9.      Lisa Lan.

Roedd y gig yn llwyddiant mawr, ac roedd y bechgyn wrth eu bodd i fod ar lwyfan gyda’u gilydd unwaith eto. Felli, pan ofynnodd Euros i’r band  chwarae gig yn Felin Fach yn ystod gwyl gelfyddydau Aerwyl, cytunodd pawb. Ar y gitâr flaen y tro yma oedd Geraint Williams o Landdarog ger Tre Caerfyrddin. Gan bod Gordon yn methu chwarae o achos galwadau cerddorol arall, gofynnwyd i ddrwmwr gwreiddiol Eliffant i gymerid rhan, ac fe gytunodd. Felli ar nos Wener, Mai 12 1995 daeth Eliffant i’r llwyfan un tro olaf yn eu cartref ysbrydol, Felin Fach o flaen cynulleidfa frwdfrydig o ffrindiau, teulu, edmygwyr, hen “roadies” ac amryw wynebau cyfarwydd.  Canwyd y set naw cân eto, ond y tro yma fu’r encôr yn naw cân hefyd. Doedd y gynulleidfa ddim yn fodlon i’r bois adael y llwyfan tan iddynt ganu’r caneuon ddwy waith.

 

“ Mwy! Mwy! Mwy! Ma’r bar dal ar agor, ac mae’r tafarnau wedi cau. Mwy! Mwy!”

 

 

Y Diwedd.

copa

| english |